天美传媒

Feirws y Tafod Glas (BTV-3) wedi'i ganfod yng Ngwynedd

Mae seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) wedi'i ganfod mewn tair dafad a symudwyd i Wynedd o ddwyrain Lloegr. Mae ffermwyr ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ar 么l y darganfyddiad hwn. 

Dyma'r tro cyntaf i鈥檙 Tafod Glas-3 gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn canfod achosion BTV-3 yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf. Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn annog ffermwyr i gadw llygad am y clefyd a phrynu da byw yn ddiogel.

Mae鈥檙 Tafod Glas yn cael ei achosi gan firws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai rhywogaethau o wybed brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid sy鈥檔 cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacaod a lamaod). Fodd bynnag, nid yw鈥檙 Tafod Glas yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd.

Os amheuir y Tafod Glas, mae'n rhaid i ffermwyr a cheidwaid da byw ym Mlaenau Gwent roi gwybod yn syth drwy ffonio 0300 303 8268.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
"Mae'r achosion a nodwyd yng Ngwynedd mewn anifeiliaid a gludwyd i mewn i Gymru ac nid ydyn nhw ym Mlaenau Gwent ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod ffermwyr da byw yn siarad 芒'u milfeddyg ac yn prynu da byw yn ddiogel i ddiogelu buchesi a phreiddiau.  Os oes gennych unrhyw amheuon o'r firws Tafod Glas, rhowch wybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith."

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.gov.uk/bluetongue ac mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar sefyllfa bresennol y Tafod Glas hefyd ar gael yn