Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Mae鈥檙 setiau sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf, gyda newidiadau enfawr yn ein heconomi byd-eang ac angen dulliau newydd, blaengar i hyfforddi gweithlu鈥檙 dyfodol. Wedi鈥檜 gyrru yn bennaf gan ddatblygiadau technolegol, mae llawer o swyddi wedi diflannu鈥檔 llwyr oherwydd awtomeiddio tra bod rhai newydd yn ymddangos bob dydd. Mae鈥檙 ffordd y mae myfyrwyr yn rhyngweithio, dysgu a chysylltu hefyd wedi newid fel bod angen rhaglen newydd o ddysgu i unioni鈥檙 fantol.
Mae STEM yn ymagwedd at ddysgu a datblygu sy鈥檔 integreiddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae sgiliau allweddol tebyg i greadigrwydd ac arloesi, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithlonrwydd personol, cynllunio a threfnu ymysg y sgiliau newydd sydd eu hangen i greu gweithlu cystadleuol a all addasu i鈥檙 newid yn y gweithle.
Prosiect Hwyluso STEM 天美传媒
Lansiwyd cam peilot Prosiect Hwyluso STEM 天美传媒 (BG) yn gynnar yn 2021 tan fis Mawrth 2023 ar gyfer clwstwr ysgolion Ebwy Fawr yn unig. Nod y prosiect oedd sefydlu rhaglen gydlynol o gymorth STEM, yn canolbwyntio ar ddiwydiant ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy fenter y Cymoedd Technoleg.
Mae rhaglen y Cymoedd Technoleg yn creu amgylchedd perffaith ar gyfer y math o ddiwydiannau clyfar, cyflym sy鈥檔 newid ein ffordd o fyw a gweithio ac mae wedi鈥檌 chanoli yma ym Mlaenau Gwent. Mae ein rhanbarth yn dod yn fagwrfa uwch-dechnoleg ar gyfer datblygu technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 拢100m dros 10 mlynedd i greu 1,500 a mwy o swyddi. Erbyn 2027 bydd 天美传媒 a Chymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd i gefnogi diwydiannau sydd ar flaen y gad. Mae'r Cymoedd Technoleg yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒, diwydiant a'r byd academaidd i fuddsoddi yn y seilwaith a'r sgiliau i wneud iddo ddigwydd ac mae llawer o gwmn茂au technoleg eisoes wedi gwneud 天美传媒 yn gartref iddynt.
Oherwydd llwyddiant cyfnod peilot Prosiect Hwyluso STEM 天美传媒, dyfarnodd y Cymoedd Technoleg gyllid ychwanegol i ymestyn y prosiect i fis Mawrth 2025 ac i ehangu鈥檙 cynnig i bob ysgol ar draws 天美传媒. Mae t卯m Prosiect Hwyluso STEM BG yn gweithio gydag ysgolion, darparwyr a diwydiant i godi proffil STEM yn y gymuned ehangach a chydag ysgolion i ymgysylltu 芒 dysgwyr er mwyn paratoi pobl ifanc 芒鈥檙 sgiliau y bydd eu hangen yn y maes hwn yn y dyfodol ar gyfer swyddi gwerth uchel, medrus iawn.
Amcanion allweddol:
- Sefydlu a chyflwyno rhaglen gydlynol o gefnogaeth STEM i ysgolion, yn canolbwyntio ar ddiwydiant sy'n cyd-fynd 芒'r cwricwlwm ysgol.
- Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a chynyddu lefelau dyhead a chyrhaeddiad o fewn pynciau STEM.
- Mynd i'r afael 芒'r gwahaniaeth rhwng dynion a merched mewn STEM.
- Uwchsgilio a gwella gwybodaeth am sgiliau digidol gydag athrawon a dysgwyr.
- Annog dysgwyr i ddatblygu parodrwydd ar gyfer gwaith STEM trwy ymyriadau busnes / diwydiant lleol.
I gael rhagor o wybodaeth a鈥檙 newyddion diweddaraf, gweler ein Padlet Prosiect STEM BG y gellir ei gyrchu drwy鈥檙 ddolen hon -