Ìý
Beth yw BYG?Ìý
Gwefan yw’r Byg wedi’i ddylunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
Mae’n wefan gwbl ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd ac ymglymiad uniongyrchol a darparu pobl ifanc 11 i 25 oed gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau, newyddion, gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd ar eu cyfer ledled ÌìÃÀ´«Ã½.Ìý
Ìý
Sut mae’n gweithio?Ìý
Mae bron pob erthygl y byddwch yn eu darllen ar wefan Y Byg wedi’i hysgrifennu gan dîm o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, sydd hefyd yn helpu i redeg y wefan.
Mae’r tîm yn gyson yn edrych am aelodau newydd, felly os ydych yn hoffi’r erthyglau rydych wedi’u darllen ar y wefan ac os hoffech roi cynnig ar ysgrifennu un eich hun, yna fe hoffent gwrdd â chi. Mae’r tîm yn cwrdd yn gyson ac mae croeso i bawb alw heibio i weld sut mae pethau’n gweithio – heb unrhyw ymrwymiad!
Ìý
Os nad ydych yn siŵr a hoffech fod yn aelod llawn o’r tîm ond os hoffech gyflwyno erthygl rydych wedi’i hysgrifennu, gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio youth.service@blaenau-gwent.gov.uk a byddwn yn eich helpu i gyhoeddi’ch gwaith er mwyn i eraill ei werthfawrogi. Os hoffech ysgrifennu erthygl ond os nad ydych yn siŵr ble i gychwyn, rhowch wybod i ni ac fe roddwn gymorth i chi.
Ìý
Fe hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych ddiddordeb mewn:
- Ffotograffiaeth
- Ysgrifennu Creadigol
- Newyddiaduriaeth
- Cerddoriaeth
- Gwneud ffilmiau
Neu unrhyw beth rydych yn creu byddai’n ychwanegiad da i'r safle. Byddwn yn eich helpu i ddangos eich gwaith i gynulleidfa ehangach, yn eich rhoi mewn cysylltiad ag unigolion o’r un meddylfryd a hefyd efallai’n gallu cynnig cyfleoedd diddorol i chi.
Gwybodaeth Gyswllt
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw elfen o’r uchod, cysylltwch â ni ar youth.service@blaenau-gwent.gov.uk ac fe ddechreuwn yno, gallwch hefyd gysylltu â Gavin Townsend.
Ffôn: 01495 355811 neu