ÌìÃÀ´«Ã½

Derbyniadau Meithrin

Rownd Derbyniadau Meithrin 2024-25

Mae derbyniadau meithrin ar gyfer y flwyddyn academaidd yn cychwyn ar 7 Medi 2024 ac yn cau ar 18 Hydref 2024.

Gwynewch gais ar gyfer 2025

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth ategol berthnasol bod ffurflenni cais wedi’u derbyn, a fydd yn cael eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyrannu lleoedd i ddisgyblion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn ei ddewis ysgol feithrin.

Gellir gweld dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma: Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2025

Mynd i Feithrinfa

Mae gan bob plentyn sy’n byw ym Mlaenau Gwent hawl i le addysg ran-amser am ddim ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd (e.e. os yw eich plentyn yn 3 oed ar 16 Rhagfyr 2024, byddai ganddo hawl i le meithrin o Ionawr 2025). Cyfeirir at hyn yn gyffredin fel lle ‘Plant sy’n Codi’n 3 Oed’. Mae mynediad i leoliadau meithrin fel arfer ar sail ran-amser / hanner diwrnod am bum diwrnod yr wythnos. 

  • Os yw’ch plentyn yn 3 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Rhagfyr 2024, bydd yn gymwys i gael lle ‘Plant sy’n Codi’n 3 Oed’ yn nhymor y gwanwyn, sef o Ionawr 2025.
  •  Os yw’ch plentyn yn 3 oed rhwng 1 Ionawr 2025 a 27 Ebrill 2025, bydd yn gymwys i gael lle ‘Plant sy’n Codi’n 3 Oed’ yn nhymor yr haf, sef o Ebrill 2025.
  • Os yw’ch plentyn yn 3 oed rhwng 28 Ebrill 2025 a 31 Awst 2025, bydd yn gymwys ar gyfer lle ‘Plant sy’n Codi’n 3 Oed’ yn nhymor yr hydref, sef o Fedi 2025.

Os ydych yn dymuno i’ch plentyn fynychu lleoliad meithrin yn unrhyw un o’r ysgolion a amlinellir yn y ‘Llyfryn Cychwyn yn yr Ysgol’, bydd angen i chi wneud cais am le meithrin cyn y dyddiad cau, sef 18 Hydref 2024. 

Mae angen gwneud ceisiadau i fanteisio ar yr hawl i leoedd meithrin y cyfnod sylfaen mewn lleoliadau gofal plant nas cynhelir (Gofal Dydd Tiggys, Cylch Chwarae Acorns, Cylch Meithrin Brynithel) yn uniongyrchol i’r lleoliad gofynnol. Mae’r Llyfryn Cychwyn yn yr Ysgol yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y lleoliadau hyn.

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, yr awdurdod derbyn (Cyngor ÌìÃÀ´«Ã½) sy’n gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Bydd y disgyblion hyn wedyn yn cael lle ar gampws Blaenau neu Dredegar gan dîm arweinyddiaeth a chorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg bellach wedi agor ei hegin-ddarpariaeth, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn ei lleoliad dros dro yn NhÅ· Bedwellte, Stryd Morgan, Tredegar, ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25, bydd Ysgol Gymraeg Tredegar yn cael ei lleoli yn ei hadeilad ysgol newydd ar Ffordd y Siartwyr, Sirhywi, Tredegar.

Os ydych yn dal yn ansicr ynghylch pa ysgol i’w dewis ar gyfer eich plentyn, gweler ein llyfryn cychwyn yn yr ysgol:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion ÌìÃÀ´«Ã½ ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2025/26.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn neu i ofyn am gopi o’r Llyfryn Cychwyn yn yr Ysgol, anfonwch neges e-bost at: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk 

Deietau Arbennig

I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd

Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.

Dogfennau Cysylltiedig

Manylion Cyswllt

Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, ÌìÃÀ´«Ã½, NP23 6DN