天美传媒

Taith Addysg

Fel rhiant, bydd penderfynu ar addysg eich plentyn yn un o鈥檙 penderfyniadau pwysicaf a wnewch. Mae 3 math o ysgol ym Mlaenau Gwent i ddewis o鈥檜 plith:

  • Ysgol cyfrwng Cymraeg (addysgu鈥檙 cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg);
  • Ysgol ffydd (Catholig a鈥檙 Eglwys yng Nghymru); a
  • Ysgol cyfrwng Saesneg (addysgu鈥檙 cwricwlwm drwy gyfrwng y Saesneg)

Gorau po gyntaf y mae plentyn yn dysgu ail iaith, fodd bynnag gellir derbyn plant i leoliad cyfrwng Cymraeg ar unrhyw adeg ar eu taith addysgol. Caiff gosodiadau trochi cyfrwng Cymraeg eu datblygu ym Mlaenau Gwent fydd yn cefnogi trochi plentyn mewn addysg Gymraeg cyn symud i brif amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Derbyniadau Ysgolion

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, mae鈥檙 awdurdod derbyn (Cyngor 天美传媒) yn gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Wedyn dynodir lle i鈥檙 disgyblion hyn naill ai yng Nghampws Blaenau neu Dredegar gan d卯m Arweinyddiaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Bydd Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn agor darpariaeth egin yn Nhredegar o fis Medi 2023 ar gyfer disgyblion Meithrin a Derbyn.

Gwnewch gais yma nawr

Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol

Gofynion Cludiant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒 yn fwy hael na Mesur Teithio Dysgwyr Cymru. Cynigir cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol lle mae鈥檙 pellter rhwng y cartref a鈥檙 ysgol dros:

  • 5 milltir o鈥檙 cartref ar gyfer plant dan 8 oed a
  • 2 filltir o鈥檙 cartref ar gyfer plant 8 oed a throsodd

Mae hefyd gludiant am ddim ar gyfer disgyblion meithrin dros 1.5 milltir i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 miliwn o ddysgwyr erbyn 2050.