天美传媒

Cyn-ysgol

Gallwch ddechrau taith eich plentyn i ddod yn ddwyieithog o鈥檙 cychwyn cyntaf. Mae nifer o leoliadau cyn-ysgol ar gyfer babanod hyd at blant 3 oed. Gall y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd (cliciwch yma) roi mwy o wybodaeth. Dyma rai o鈥檙 cyfleoedd:

  • Grwpiau babanod a thylino babanod
  • Cymraeg i Blant. Mae鈥檙 Mudiad Meithrin yn cynnig cymorth ymarferol i rieni newydd ar sut i ddechau cyflwyno鈥檙 Gymraeg i鈥檞 baban. Yn osystal 芒 chynnig cyngor defnyddiol ar ofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg, mae swyddog lleol Cymraeg i Blant yn cynnwys cylchoedd hwyliog am ddim yn cynnwys tylino baban, yoga babanod a sesiynau arwydd, stori a rhigwm sy鈥檔 addas gyfer rhai 0-18 mis oed.
  • 聽Mae Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc i gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta a chwarae mewn awyrgylch anffurfiol yn y Gymraeg. Mae cyfle mewn cylch Ti a Fi i wneud ffrindiau newydd, chwarae gyda teganau, dysgu canu caneuon syml yn y Gymraeg a gwrando ar straeon Cymraeg.

  • Cylch chwarae cyfrwng Cymraeg sy鈥檔 cynnig cyfle i鈥檆h plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol a chymwys. Drwy fynychu Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar y daith i addysg cyfrwng Cymraeg ac yn datblygu i fod yn unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.
  • Holwch eich darparydd lleol sut maent yn defnyddio鈥檙 Gymraeg mewn gweithgareddau bob dydd.

Y Daith Ddwyieithiog Gyda Dechrau'n Deg

Bydd 天美传媒 yn agor dau leoliad gofal plant arall yn 2023 a 2024, un yn Nhredegar a鈥檙 llall yng Nglynebwy. Caiff y rhain eu rhedeg gan ddarparydd gofal plant preifat i鈥檞 benderfynu yn hydref 2022.

Nid oes angen i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ofidio; mae鈥檙 mudiadau sy鈥檔 cynnal cylchoedd chwarae yn croesawu rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ond sydd eisiau cyflwyno eu plant i鈥檙 Gymraeg. Awgrymir fod rhieni鈥檔 ceisio siarad cymaint o Gymraeg ag sy鈥檔 bosibl gyda鈥檜 plant gan y bydd hyn yn eu helpu i siarad yn naturiol a hyderus.

Mae darpariaeth feithrin lawn-amser yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg a gall plant ddefnyddio鈥檙 cludiant am ddim rhwng yr ysgol a鈥檙 cartref sydd ar gael ar gyfer disgyblion oedran ysgol statudol.