天美传媒

Addysg Ddewisol Yn Y Cartref

Addysg ddewisol yn y cartref: gwybodaeth i rieni

Mae gan rieni hawl i addysgu eu plant yn y cartref cyn belled 芒鈥檜 bod yn cyflawni gofynion Adran 7 Deddf Addysg, 1996, sy鈥檔 gosod dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i achosi iddo neu iddi dderbyn addysg lawn-amser addas ar gyfer eu hoedran, gallu a doniau, ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt, naill ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Mae鈥檙 gyfraith yn dweud fod yn rhaid i blant gael eu haddysgu o ddechrau鈥檙 tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bump oed hyd at y dydd Gwener olaf yn y flwyddyn ysgol maent yn 16 oed.

Os dymunwch addysgu yn y cartref, rydych yn gyfrifol yn ariannol am addysg eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys cost adnoddau addysgol ac unrhyw arholiadau cyhoeddus y dymunwch i blant eu sefyll fel ymgeisydd preifat.

Nod Cyngor Sir 天美传媒 yw rhoi arweiniad a chefnogaeth i rieni sydd yn ystyried neu sydd wedi penderfynu ar addysg ddewisol yn y cartref ar gyfer eu plant.

Y broses i roi addysg ddewisol yn eich cartref i鈥檆h plentyn

Nid yw鈥檙 penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref byth yn un rhwydd ac ni ddylech fod dan bwysau i roi addysg yn y cartref i鈥檆h plentyn. Os yw eich plentyn yn yr ysgol, byddem yn awgrymu cyn i chi dynnu eich plentyn o鈥檙 ysgol eich bod yn cwrdd gyda鈥檙 ysgol a鈥檙 swyddog lles addysg i weld pa gefnogaeth fedrir ei roi ar waith i gadw eu lle yn yr ysgol. Pan fyddwch wedi dod i鈥檙 penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref bydd angen i chi roi hyn mewn ysgrifen i bennaeth yr ysgol gan ofyn iddo/iddi dynnu eich plentyn o gofrestr yr ysgol a nodi o ba ddyddiad yr hoffech i hyn fod.

A fyddaf yn derbyn unrhyw gymorth os penderfynaf roi addysg yn y cartref?

Er mai penderfyniad i chi yn unig yw addysgu yn y cartref, bydd y Swyddog Addysg yn y Cartref yn cynnig ymweliad dechreuol i鈥檆h cefnogi ac ymweliadau dilynol os oes angen. Bydd hefyd ymweliad blynyddol. Byddwn yn ceisio trefnu rhai gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn (yn dibynnu ar gyllid) i roi cyfleoedd cyfoethogi ar gyfer plant a addysgir yn y cartref i gwrdd 芒 phlant eraill a ddysgir yn y cartref. Fodd bynnag, ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu addysg.

Mae鈥檔 ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i benderfynu fod eich plentyn yn derbyn addysg lawn-amser addas ac effeithiol.

Gorchymyn Mynychu鈥檙 Ysgol

Os na fedrwch roi tystiolaeth fod addysg addas ac effeithiol yn digwydd yna gall fod angen gorchymyn mynychu鈥檙 ysgol fydd yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檆h plentyn gael ei ddychwelyd i鈥檙 ysgol.

Beth yw addysgu hyblyg?

Mae addysgu hyblyg yn drefniant ar gyfer darparu addysg amser llawn i blentyn lle mae鈥檙 plentyn yn mynychu鈥檙 ysgol rhan o鈥檙 amser ac yn cael ei addysgu yn rhywle arall, fel arfer gan y rhiant, am weddill yr amser. Mae鈥檔 drefniant unigol a wneir rhwng yr ysgol a鈥檙 rhiant. Mae鈥檔 cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel addysg amser llawn ddilys. Nid oes model wedi鈥檌 bennu ymlaen llaw ar gyfer yr amser a roddir i鈥檙 naill leoliad na鈥檙 llall ac mae trefniadau unigol yn amrywio鈥檔 fawr.

Mae addysgu hyblyg yn wahanol i addysg gartref / addysg ddewisol yn y cartref. Mae rhieni/gofalwyr sy鈥檔 gofyn am bresenoldeb hyblyg yn gofyn am batrwm o ddarpariaeth a fydd yn cynnwys presenoldeb yn yr ysgol yn ogystal ag amseroedd pan fydd y plentyn yn derbyn darpariaeth addysgol gartref.

Mae addysgu hyblyg hefyd yn wahanol i drefniadau presenoldeb rhan-amser dros dro y gall yr ysgol/rhiant/gofalwr geisio eu gwneud. Mae trefniadau o鈥檙 fath yn cael eu monitro a鈥檜 hadolygu gyda鈥檙 bwriad o ddychwelyd y plentyn i bresenoldeb amser llawn cyn gynted 芒 phosibl. Mae addysgu hyblyg yn amser llawn, er y gall y ddarpariaeth gael ei rhannu.

Mae addysgu hyblyg yn gyfreithlon yn y DU, ond nid yw鈥檔 hawl awtomatig, yn wahanol i addysg gartref amser llawn. Mater i bennaeth eich ysgol yn llwyr yw hyn a bydd angen ei ganiat芒d cyn y gallwch fynd ymlaen. O鈥檙 herwydd, gall penaethiaid wrthod cytuno i geisiadau o鈥檙 fath.

Addysgu Hyblyg Canllawiau i Ysgolion, Rhieni/Gofalwyr a Gweithwyr Proffesiynol

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar addysg ddewisol yn y cartref

Llawlyfr Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysgwyr yn y Cartref:

Llawlyfr 天美传媒 ar addysg yn y cartref

Os ydych yn ystyried addysg yn y cartref neu eisoes yn rhoi addysg yn y cartref ac yr hoffech gysylltu 芒 ni, defnyddiwch y manylion isod os gwelwch yn dda:

Charlotte Copik-Phillips

Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref

Cyngor Sir 天美传媒

Llys Einion

Abertyleri

天美传媒

NP13 1DB

 

Ff么n: 07815 029295

E-bost: charlotte.copik@blaenau-gwent.gov.uk

 

Addysg ddewisol yn y cartref: gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol

 

Mae鈥檔 ofyniad cyfreithlon ar rieni i sicrhau fod eu plant yn derbyn addysg addas. Mae rhai rhieni yn dewis cyflawni eu cyfrifoldeb dros ddewis addysgu eu plant yn y cartref. Caiff yr opsiwn hwn ei adnabod yn addysg ddewisol yn y cartref.

 

Os yw rhiant neu ofalwr plentyn yn eich ysgol neu ardal yn penderfynu addysgu yn y cartref, mae鈥檔 rhaid i chi lenwi ffurflen atgyfeirio ac atodi copi o鈥檙 llythyr dadgofrestru cyn tynnu鈥檙 plentyn o gofrestr yr ysgol.

 

Ein hysbysu am blentyn sy鈥檔 cael addysg yn y cartref

 

Fel gweithiwr proffesiynol sy鈥檔 gweithio gyda phlant, mae鈥檔 rhaid i chi ein hysbysu os gwyddoch am blentyn fydd yn derbyn (neu sydd yn derbyn) addysg yn y cartref.

Dogfennau:

Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref

Canllawiau i rieni

Canllawiau ar addysg addas

Taflen profiad gwaith