ÌìÃÀ´«Ã½

Trefnu Digwyddiad

Diogelwch yn y Digwyddiadau

Efallai eich bod am gynnal asesiad risg ar gyfer eich digwyddiad a’r mesurau atal Covid.  Am gyngor pellach ar drefnu digwyddiad, cysylltwch gyda’r  Event Safety Advisory Group.    Mae’r bygythiad gan derfysgaeth yn real, ac yn anffodus, mae’n anodd rhagweld beth sydd yn medru digwydd o fewn mannau cyhoeddus a phrysur sydd yn medru bod yn darged i derfysgwyr.   Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud er mwyn lleihau’r risg a lliniaru effaith y fath ymosodiad. Rydym yn argymell felly eich bod yn cwblhau’r   ar wrth-derfysgaeth.

Os ydych chi’n bwriadu rhedeg digwyddiad bach neu gymunedol, mae rhai cyfrifoldebau sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd angen i chi feddwl am bwy fydd yn mynychu, pa gyfleusterau bydd eu hangen arnynt, pa fath o weithgareddau fydd yn digwydd ac unrhyw ofynion diogelwch.

Pwy sy’n gallu darparu cyngor?

Mae ESAG ÌìÃÀ´«Ã½ (Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau) yn gallu helpu pobl gynllunio a threfnu digwyddiadau llwyddiannus, diogel i bobl o fewn ÌìÃÀ´«Ã½.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Heddlu, Tân ac Achub, Ambiwlans ac eraill i gynnig cyngor a darparu cyfarwyddyd i unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad.

Rydym yn cynnig cyfarwyddyd ar arfer gorau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol, cyfreithiol a gweithredol.

Gall y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau gynnig cyfarwyddyd ar:

  • Sut i gychwyn arni
  • Beth sydd angen i chi ei wneud
  • Â phwy i gysylltu am gyfarwyddyd arbenigol     

Y brif wybodaeth rydym ei angen gennych yw:

  • Pa fath o ddigwyddiad ydych chi’n ei gynllunio
  • Ble fydd yn digwydd
  • Pryd a ble fydd yn digwydd, dyddiad ac amser
  • Pwy fydd yn mynychu
  • Faint fydd yn mynychu
  • Pa gyfleusterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys toiledau, cymorth cyntaf, dŵr yfed a lluniaeth.
  • A yw’r digwyddiad ar gyfer grŵp penodol, megis plant, pobl ifanc yn eu harddegau, pobl hÅ·n neu bobl anabl?
  • Oes angen unrhyw gyfleusterau penodol arnoch ar gyfer y grwpiau hyn?
  • Beth sydd angen i chi wneud i reoli torfeydd yn ddiogel?
  • A yw’r safle sydd gennych mewn golwg yn addas ar gyfer y nifer rydych yn disgwyl bydd yn mynychu
  • Efallai byddwn yn gofyn am wybodaeth arall, yn dibynnu ar fath y digwyddiad rydych yn cynllunio.

Y cynharaf y gallwch ddarparu’ch ffurflen yn ein hysbysu am eich digwyddiad, y gorau oll bydd ESAG yn gallu’ch cynghori.

Pethau sydd angen i chi eu hystyried:

  • Cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys cynllun o’r safle ac asesiad risg
  • Cynllun argyfwng, iechyd a diogelwch, deddfwriaeth ac ymgyfreithiad
  • Cau ffyrdd, arwyddion, effeithiau arbennig, ac ati.
  • Diogelwch tân, stiwardio, darpariaeth feddygol, tai bach
  • Mynediad anabl, strwythurau dros dro
  • Mynediad i gerbydau brys, parcio ceir
  • Systemau sain / PA, bwyd a diod
  • Gwaredu ar sbwriel
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Trwydded lleoliad neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN)
  • Eraill fel bo’n briodol (yn dibynnu ar fath y digwyddiad).

Faint o rybudd sydd angen ar y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau?

Y mwyaf o rybudd a dderbyniwn, y mwyaf o amser sydd gan gynllunwyr i drefnu’n effeithiol, yn enwedig os yw’r digwyddiad ar raddfa eang neu angen trwyddedau a/neu gau ffyrdd. Yn ddelfrydol, rydym angen ffurflen yn hysbysu am ddigwyddiad o leiaf 3 mis cyn mae’r digwyddiad i fod i ddigwydd.

Mae fel arfer yn cymryd hyd at 6 mis i drefnu digwyddiad bach hyd at 12 mis am ddigwyddiad mwy.

Cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd, ond gellir cynnal cyfarfodydd arbennig i drafod digwyddiadau mawr.

Dogfennau Cysylltiedig

 

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Trefniadau Dinesig Wrth Gefn
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad e-bost: event.safety@blaenau-gwent.gov.uk