天美传媒

Trwydded Siop Anifeiliaid

Er mwyn rhedeg busnes sy鈥檔 gwerthu anifeiliaid anwes mae angen trwydded oddi wrth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys pob gwerthiant masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid, busnesau鈥檔 gwerthu anifeiliaid dros y rhyngrwyd a chadw anifeiliaid gyda鈥檙 bwriad o鈥檜 gwerthu yn unol 芒 natur busnes o鈥檙 fath.  

Am wybodaeth bellach ar yr hyn gaiff ei ystyried yn anifail anwes cysylltwch, os gwelwch yn dda,  ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Pwy all wneud cais?

Mae鈥檔 rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac mae鈥檔 rhaid iddynt fod heb eu diarddel:

  • rhag cadw siop anifeiliaid dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • rhag cadw sefydliad marchogaeth dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
  • rhag cael cystodaeth o anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Gwelliant) 1954
  • rhag cadw sefydliadau lletya ar gyfer anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • rhag cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, bod yn gallu dylanwadu ar y modd mae anifeiliaid yn cael eu cadw, dosbarthu anifeiliaid neu drawsgludo neu 芒 rhan mewn  trawsgludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

Pa ddeddfwriaeth sy鈥檔 rheoli鈥檙 cais hwn?

A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?

Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a鈥檙 Prisiau.

Sut caiff fy Nghais ei brosesu?

Bydd y Cyngor yn ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid:

  • y bydd anifeiliaid bob amser yn cael eu cadw mewn llety addas parthed maint, tymheredd, goleuo, awyru a glanweithdra;
  • y cyflenwir anifeiliaid yn ddigonol 芒 bwyd a diod addas ac yr ymwelir 芒 hwy ar gyfnodau addas;
  • na chaiff anifeiliaid, sy鈥檔 famaliaid, eu gwerthu mewn oedran rhy gynnar;
  • y cymerir pob gofal rhesymol i atal clefydau  heintus rhag lledu ymysg yr anifeiliaid;
  • y cymerir camau priodol ar gyfer amddiffyn yr anifeiliaid rhag t芒n neu achos brys arall

Gellir atodi amodau wrth drwydded i sicrhau y cydymffurfir 芒鈥檙 ffactorau uchod.

Gellid derbyn manylion pellach ynghylch yr asesiad ar gyfer meini prawf oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd.

Faint fydd hi鈥檔 cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniat芒d dealledig yn weithredol?

Bydd eich cais yn cymryd hyd at bedwar mis i鈥檞 brosesu ac fe fydd caniat芒d dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai鈥檆h cais wedi ei ganiat谩u os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed o bedwar mis.

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda,  ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio i鈥檞 Lys Ynadon lleol. Gellir derbyn manylion ar hawliau ap锚l oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd .

Gall unrhyw ddeiliaid trwydded sy鈥檔 dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth eu trwydded apelio i鈥檞 Llys Ynadon lleol. Byddem yn cynghori, fodd bynnag, eich bod yn cysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, 芒

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

贵蹿么苍: 01495 369542
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk