天美传媒

Datgladdiadau ac Angladdau iechyd y Cyhoedd

Er mwyn datgladdu olion a gladdwyd neu a amlosgwyd mae angen trwydded  Swyddfa Gartref neu Gynneddf yr Esgob, neu mewn rhai achosion, y ddau.

Gall datgladdu ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • symudiad o鈥檙 bedd gwreiddiol i ddarn i dir a ddaeth  i ran y teulu yn ddiweddarach
  • dychwelyd i鈥檙 famwlad i鈥檞 losgi gydag aelodau eraill o鈥檙 teulu
  • trosglwyddo o un fynwent 芒 bwriad i鈥檞 datblygu i fynwent arall
  • ar orchymyn y crwner ar gyfer archwiliad fforensig pellach

Beth sy鈥檔 ofynnol:

Mae鈥檔 drosedd datgladdu unrhyw olion dynol cyn cael y caniatadau cyfreithlon angenrheidiol yn gyntaf.

Os yw鈥檙 gladdedigaeth ar dir heb ei gysegru, mae鈥檔 sy鈥檔 rhad ac am ddim. Os cleddir person mewn tir cysegredig, mae鈥檔 rhaid cael caniat芒d gan yr eglwys hefyd. Gelwir hyn yn Gynneddf yr Esgob.

Anaml y caniateir Cynneddf ac mae ffi鈥檔 daladwy os caniateir hi ai peidio.

Os cleddir yr olion mewn tir cysegredig ac maent i鈥檞 claddu mewn tir nad yw鈥檔 gysegredig, mae angen trwydded Swyddfa Gartref a Chynneddf Esgob. Mae鈥檙 amodau canlynol hefyd yn gymwys:

  • mae trwydded i ddatgladdu鈥檔 cynnwys amodau penodol y mae鈥檔 rhaid glynu wrthynt;
  • mae鈥檔 rhaid i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd fod yn bresennol pan ddatgleddir corff i sicrhau nad oes unrhyw fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd;
  • os yw鈥檙 olion i鈥檞 claddu mewn gwlad arall bydd angen i鈥檙 Swyddfa Gartref gael cadarnhad o鈥檙 caniat芒d i hyn oddi wrth yr awdurdodau perthnasol;
  • Yn achlysurol, mae鈥檔 ofynnol cyflwyno tystysgrifau cyrff meirw yn ychwanegol at drwydded ddatgladdu;

Gwedduster a Diogelwch

Mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn arolygu鈥檙 datgladdiad i sicrhau bod parch i鈥檙 ymadawedig yn cael ei gynnal ac yr amddiffynnir iechyd y cyhoedd a bod trefniadau boddhaol yn eu lle ar gyfer trosglwyddo鈥檙 olion ymlaen.

Os na ellir cwrdd ag amodau鈥檙 drwydded, neu os oes pryderon ynghylch iechyd y cyhoedd neu wedduster, gallai鈥檙 datgladdiad beidio 芒 mynd rhagddo.