天美传媒

Mabwysiadu gan Lys-Rieni

Mae llysrieni yn aml yn dymuno mabwysiadu plant o berthnasau blaenorol eu partner. Mae mabwysiadu gan lys-rieni yn cynnwys dod yn rhiant cyfreithlon y plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymrwymiad oes i鈥檙 plentyn.

I fabwysiadu plentyn eich partner (ddylai fyw yn y DU) bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod yn bwriadu mabwysiadu o leiaf tri mis cyn cychwyn eich cais i fabwysiadu gyda鈥檙 llys.

Cyn i chi gychwyn

Mae mabwysiadu yn ymwneud yn bennaf 芒 beth sydd orau ar gyfer y plentyn/plant dan sylw.

Mae鈥檔 bwysig sylweddoli mai nid mabwysiadu gan lys-rieni yw鈥檙 unig ffordd o ddarparu awyrgylch teuluol sefydlog a diogel neu i adnabod hawliau, rolau a chyfrifoldebau鈥檙 llys-rieni.

Dylech felly ystyried yr holl ddewisiadau eraill cyn parhau gyda鈥檙 broses o fabwysiadu gan lys-rieni, ni fydd y Llysoedd yn cymeradwyo gorchymyn mabwysiadu yn awtomatig a byddant yn disgwyl bod dewisiadau eraill wedi cael eu harchwilio a鈥檜 hasesu yn gyntaf.

Mae鈥檔 gall ceisio cyngor cyn gwneud cais mabwysiadu.

Gall SEWAS gynnig gwybodaeth a chyngor cyn i chi gysylltu 芒鈥檆h llys sirol neu ynadon lleol, mae鈥檔 manylion cyswllt yn yr adran 鈥済wybodaeth gyswllt鈥.

Dylech hefyd ystyried cysylltu 芒 chyfreithiwr sy鈥檔 arbenigo mewn cyfraith plant a theuluoedd er nid yw hwn yn ofyniad hanfodol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyfreithwyr teulu yn y cyfeirlyfr ff么n lleol neu ar-lein.

Effaith Mabwysiadu gan Lys-Rieni:

Ar y plentyn mabwysiedig

Ymhlith effaith mabwysiadau gan lys-riant mae:

  • Bydd y berthynas rhwng y plentyn a鈥檙 llys-riant yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol.
  • Bydd gan y llys-riant ddyletswydd rhieni yn gyfartal 芒鈥檙 rhiant naturiol.
  • Efallai bydd y plentyn yn cael cyfenw neu enw teuluol newydd.

Mae nifer o oblygiadau eraill i鈥檞 hystyried oherwydd ni fyddai gan y plentyn unrhyw gysylltiadau cyfreithiol i鈥檙 rhiant naturiol arall bellach na rhan fawr o deulu鈥檙 rhiant yna chwaith.

Er bod modd cynnal perthynas dda, mae鈥檔 golygu y bydd y plentyn mabwysiedig yn 么l y gyfraith yn:

  • Colli unrhyw hawl awtomatig i gyswllt gyda鈥檙 rhiant hwnnw neu deulu鈥檙 rhiant hwnnw (modrybedd, ewythrod, mam-guod a thad-cuod, ac ati).
  • Colli unrhyw hawliau i daliadau cynhaliaeth gan y rhiant naturiol arall.
  • Colli unrhyw hawliau i etifeddiaeth gan y rhiant naturiol arall neu deulu鈥檙 rhiant hwnnw oni bai bod darpariaeth arbennig yn cael ei wneud yn eu hewyllysiau.

Ar Gyfer y Llys-Riant

Bydd y llys-riant yn dod yn rhiant cyfreithiol i鈥檙 plentyn, gyda鈥檙 holl hawliau a chyfrifoldebau byddai ganddynt pe byddent yn rhiant naturiol i鈥檙 plentyn. Mae mabwysiadu yn ymrwymiad oes i fod yn rhiant trwy gydol plentyndod a thu hwnt. Mae mabwysiadu yn barhaol ddiwrthdro heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol ac eithafol.

Ar Gyfery rhieni naturiol

Bydd Gorchymyn Mabwysiadu yn cymryd cyfrifoldeb rhieni (os ydyw ganddynt) i ffwrdd o鈥檙 rhieni naturiol arall ond ni fydd yn ei dynnu i ffwrdd o鈥檙 rhiant sy鈥檔 bartner i鈥檙 llys-riant.

Os yw cwpl mewn perthynas newydd neu ail briodas yn gwahanu neu鈥檔 ysgaru ar 么l i orchymyn mabwysiadu cael ei wneud, bydd gan y ddau riant hawl cyfartal i鈥檙 plentyn ond bydd rhiant naturiol arall y plentyn yn parhau heb ddim hawliau. Bydd cyfrifoldebau鈥檙 rhiant mabwysiadu tuag at y plentyn yn parhau.

Ar gofnodion

  • Bydd llunio gorchymyn mabwysiadu yn cael ei gofnodi yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig (nid yw鈥檙 Gofrestr Plant Mabwysiedig yn agored i鈥檙 cyhoedd ei harchwilio neu chwilio).
  • Bydd tystysgrif mabwysiadu yn cael ei chyhoeddi i鈥檙 rhieni mabwysiadol.
  • Bydd cofnod y plentyn yn y gofrestr o enedigaethau hefyd yn cael ei anodi i ddynodi bod y mabwysiadu wedi digwydd. Yn 18 mlwydd oed, gall person mabwysiedig wneud cais am gopi o鈥檌 dystysgrif geni wreiddiol.

Pethau pwysig eraill i鈥檞 hystyried

Pwynt pwysig mae pobl yn gallu ei anghofio yw bod y llysoedd yn ystyried y mabwysiadu o safbwynt y plentyn yn hytrach na鈥檙 oedolyn. Mae dymuniadau鈥檙 oedolyn yn cael ei ystyried, ond bydd gorchymyn mabwysiadu yn cael ei gymeradwyo dim ond os ydyw yn niddordebau gorau鈥檙 plentyn. Mae rhai pobl yn teimlo鈥檙 angen i fabwysiadu鈥檜 llys-blant er mwyn gwneud i鈥檙 teulu teimlo鈥檔 gyflawn, ond nid yw hwn yn rheswm digonol i鈥檙 llys gymeradwyo gorchymyn mabwysiadu.

Y Meini Prawf ar gyfer Mabwysiadu gan Lys-Riant

Gall ceisiadau cael eu gwneud gan bartner priod neu ddi-briod (naill ai o鈥檙 un rhyw neu鈥檔 wahanol) i bartner gyda phwy maen nhw鈥檔 byw mewn perthynas deuluol barhaol (fel arfer yn para 3 mlynedd neu鈥檔 hirach).

Rhaid bod y llys-riant wedi bod yn byw gyda鈥檙 plentyn am o leiaf chwe mis cyn y cais. Dylai鈥檙 ymgeisydd fod dros 18 mlwydd oed.

Rhaid i鈥檙 llys-riant ymgeisio i鈥檙 Llys am orchymyn mabwysiadu. Os yw caniat芒d yn cael ei roi, fe ddaw鈥檙 llys-riant yn rhiant mabwysiadol.

Mae gorchymyn mabwysiadu鈥檔 bosib dim ond os:

  • Bod y Llys yn penderfynu ei fod yn niddordeb gorau鈥檙 plentyn.
  • Yw unrhyw riant arall sy鈥檔 chwarae r么l ym mywyd y plentyn ac sydd 芒 chyfrifoldeb rhiant yn cytuno (oni bai bod y Llys yn penderfynu na fod angen eu caniat芒d).
  • Yw鈥檙 plentyn wedi cael ei ofalu am gan y cwpl am o leiaf 6 mis cyn y cais.
  • Bod y ddau ymgeisydd yn 21 oni bai bod y rhiant naturiol yn 18 neu鈥檔 h欧n.
  • Bod un o鈥檙 cwpl yn breswylydd yn y DU neu fod y ddau wedi bod yn preswylio yn y DU am flwyddyn neu鈥檔 hirach.
  • Nad yw鈥檙 cwpl yn cynnwys dau berson sy鈥檔 perthyn (e.e. dwy chwaer h欧n yn mabwysiadu brawd neu chwaer iau).
  • I ddangos tystiolaeth o sefydlogrwydd, rhaid bod y Llys yn asesu鈥檙 cwpl fel un sydd mewn 鈥減erthynas deuluol barhaol鈥.

Nodwch na fod hi bellach yn ofyniad yn 么l y gyfraith bod rhiant naturiol yn mabwysiadu ei blentyn ei hun ar yr un adeg 芒鈥檙 llys-riant.

Dewisiadau arall i Fabwysiadu gan Lys-Riant

Mae鈥檔 naturiol i lys-riant yrru鈥檙 penderfyniad i fabwysiadu plant oherwydd awydd i ddod yn rhan o uned deuluol ffurfiol.

Fodd bynnag, nid mabwysiadu yw鈥檙 ffordd orau o ddarparu sefydlogrwydd a strwythur i blentyn ym mhob sefyllfa.

Mae鈥檙 Llysoedd yn aml yn cydnabod nifer o ddewisiadau eraill, yn eu plith mae:

Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhieni

Gorchymyn, os caiff ei gymeradwyo, sy鈥檔 rhoi cyfrifoldeb rhieni i鈥檙 llys-riant. Ni fydd hyn yn torri鈥檙 cysylltiadau ffurfiol gyda theulu naturiol estynedig y plentyn yn yr un modd ag y byddai mabwysiadu.

Cytundeb Cyfrifoldeb Rhieni

Cytundeb ffurfiol sy鈥檔 cael ei lunio gan gyfreithiwr yw hwn sy鈥檔 egluro hawliau, rolau a chyfrifoldebau pawb gyda chyfrifoldeb rhieni.

Gorchymyn Trefniadau Plant

Cyflwynwyd Gorchmynion Trefniadau聽 Plant i ddeddfwriaeth y DU i ddisodli a chwmpasu gorchmynion eraill megis Gorchmynion Preswyliad a Gorchmynion Cyswllt. Felly mae Gorchymyn Trefniadau Plant yn rheoleiddio trefniadau sy'n ymwneud 芒 gyda phwy a phryd y mae plentyn yn byw, treulio amser neu fel arall yn cael cyswllt 芒 rhai pobl.

Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i reoli鈥檙 berthynas gyda rhieni sy鈥檔 bell i ffwrdd.

Cyngor Cyfreithiol

Efallai byddwch yn dymuno ceisio cyngor Cyfreithiwr Plant a Theuluoedd cyn parhau gyda chais. Nid yw bob tro鈥檔 hanfodol neu鈥檔 angenrheidiol i gael cynrychiolaeth gyfreithiol i wneud cais mabwysiadu, fodd bynnag mewn achosion cymhleth neu achosion ble mae anghydfod, gall fod yn ddoeth cael cyngor cyfreithiol.

Beth i鈥檞 wneud nesaf?

  1. Cysylltwch 芒 ni (SEWAS) am gyngor cyffredinol.
  2. Os byddwch yn penderfynu cyflwyno cais am ddod yn lys-riant mabwysiadol, dylech roi gwybod i SEWAS yn ysgrifenedig am eich bwriad i wneud cais (dylid gwneud hyn o leiaf tri mis cyn i chi wneud y cais i鈥檙 llys, gall eich cyfreithiwr hefyd wneud hyn ar eich rhan os oes gennych chi un).聽 Fe fyddem bob amser yn eich cynghori i ofyn am gyngor gan SEWAS yn gyntaf.
  3. Bydd SEWAS yn cysylltu 芒 chi i drafod mabwysiadu a'r dewisiadau amgen a bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld 芒 chi i drafod y broses. Bydd ganddynt hefyd ddyletswydd i ymweld 芒'r plentyn i sicrhau bod eu gofal a'u lles yn foddhaol a hefyd bod ganddynt ddealltwriaeth briodol o o fabwysiadu sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檜 hoedran.
  4. Cyflwyno鈥檆h cais gyda鈥檙 Llys. Defnyddir Llys Achosion Teuluol (llys yr ynadon) yn y rhan fwyaf o geisiadau mabwysiadu gan lys-riant, yn enwedig pan fo'r ddau riant biolegol yn cydsynio i'r mabwysiadu. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio i'r llys, ni ellir ad-dalu hyn pe baech yn penderfynu yn ddiweddarach peidio 芒 symud ymlaen.
  5. Bydd y Llys yn gofyn i un o鈥檔 gweithwyr cymdeithasol ddarparu adroddiad manwl cyn iddo allu gwneud gorchymyn mabwysiadu. Gelwir yr adroddiad yn Adroddiad Cynaliadwyedd a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am:
  • Chi
  • Eich teulu
  • Eich iechyd
  • Gwiriadau rhestri鈥檙 Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac amddiffyn plant
  • Partneriaid blaenorol y llys-riant (a manylion am unrhyw blant eraill)
  • Pa ddewisiadau eraill i fabwysiadu sydd wedi cael eu hystyried
  • Tystiolaeth sy鈥檔 dangos bod ymdrech ddigonol wedi cael ei wneud i olrhain, cysylltu a cheisio barn rhiant absennol neu bell i ffwrdd.
  • Os yw mabwysiadu yn niddordebau gorau鈥檙 plentyn.
  • Lles ac addysg y plentyn.

Bydd yr adroddiad hefyd yn asesu effaith posib y mabwysiadu ar y plentyn a鈥檙 ddau riant biolegol ac unrhyw blant eraill o fewn y teulu na fyddant efallai'n rhan o'r cais. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth mabwysiadu wneud argymhelliad proffesiynol i'r llys p'un a yw mabwysiadu er lles gorau'r plentyn.

Bydd hyn yn helpu鈥檙 Llys benderfynu os mai gorchymyn mabwysiadu yw鈥檙 penderfyniad cywir i鈥檙 teulu cyfan neu os yw dewisiadau eraill yn fwy addas.

  1. Bydd y Llys hefyd yn penodi Goruchwyliwr a fydd yn ymweld 芒鈥檙 ddau riant biolegol a鈥檙 ymgeisydd i ymdrin 芒 chytundebau i fabwysiadu ac unrhyw faterion eraill a allai fod wedi codi. Bydd y Goruchwyliwr bob amser yn ystyried cais o safbwynt y plentyn.
  2. Yna bydd y Llys yn penderfynu cymeradwyo gorchymyn mabwysiadu ai peidio.聽 Bydd y ddau ymgeisydd yn mynychu gwrandawiadau'r llys a gwahoddir y plentyn hefyd i fynychu gwrandawiad mabwysiadu yn y Llys.聽 Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn mynychu ac efallai bydd eich cyfreithiwr yn mynychu os oes gennych chi un. Gall y Llys gymeradwyo Gorchymyn Mabwysiadu, dim gorchymyn o gwbl neu orchymyn arall megis Gorchymyn Trefniadau Plant.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒

Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru
Adain y Gogledd
2il Lawr, Bloc B
T欧 Mamhilad
Yst芒d Parc Mamhilad
Pont-y-pwl
Torfaen
NP4 0HZ

Ff么n: (01495) 355753 neu 355764
E-bost : adoption@blaenau-gwent.gov.uk

Cyngor Sirol Casnewydd (Canolfan Fabwysiad)
T欧 Olympia
3ydd Llawr
Upper Dock Street
Casnewydd
NP20 1PQ

Ff么n: (01633) 227151