天美传媒

Diogelu Oedolion Archolledig

Gwybodaeth gyffredinol

Ewch i wefan Byrddau Diogelu Gwent i gael gwybodaeth a chyngor am ddim ar Ddiogelu Plant ac Oedolion.

Mae gan bawb yr hawl i鈥檞 urddas dynol, parch ac i fyw eu bywyd heb gamdriniaeth ac esgeulustod.

Gallai amddiffyn y bobl fwyaf archolledig yn y gymdeithas, pan maent angen cael eu hamddiffyn, sicrhau ansawdd bywyd gwell ar gyfer nifer o bobl. Gall rhai oedolion fod yn archolledig i gamdriniaeth ac efallai bod eu hawliau dynol yn cael eu diystyru yn rheolaidd.

Mae鈥檙 Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, y bwrdd iechyd, rheolyddion, a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gweithio gyda鈥檌 gilydd ac yn ymrwymedig i sicrhau bod oedolion archolledig yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, ac yn cymryd camau yn syth lle bo angen i gadw oedolion archolledig yn ddiogel rhag niwed.

Pwy all fod yn oedolyn archolledig?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ystyr 鈥渙edolyn archolledig鈥 fel oedolyn sydd:

(a) yn dioddef neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod,

(b) ganddo anghenion am ofal a chymorth (os yw鈥檙 awdurdod yn diwallu鈥檙 anghenion hynny neu beidio), ac

(c) o ganlyniad i鈥檙 anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun rhag cam-drin neu ei esgeuluso rhag risg iddo.

Gall hyn gynnwys pobl ag anableddau corfforol, dysgu neu synhwyraidd. Mae鈥檙 ffactorau gall gynyddu鈥檙 risg o fod yn archolledig gynnwys oedran, problemau iechyd y meddwl, salwch cronig, ymddygiad heriol, diffyg galluedd meddyliol, problemau cymdeithasol ac emosiynol, tlodi, digartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau.

Beth yw camdriniaeth?

Camdriniaeth yw pan mae rhywun yn dweud neu鈥檔 gwneud pethau sy鈥檔 eich brifo chi, eich cynhyrfu, codi ofn arnoch neu yn achosi niwed corfforol. Gall camdriniaeth amrywio o driniaeth sy鈥檔 diystyru eich hawliau dynol a sifil, achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol i chi ac sydd yn effeithio鈥檔 sylweddol ar eich ansawdd o fywyd.

Gall camdriniaeth ddigwydd unrhyw le - mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, cartref person, mewn canolfan dydd neu sefydliad addysgol, mewn tai 芒 chymorth neu ar y stryd.

Mae ffurfiau o gamdriniaeth yn cynnwys:

Camdriniaeth gorfforol, fel bwrw, gwthio, pinsio, ysgwyd, defnyddio gormod o feddyginiaeth neu atal rhywun rhag cymryd eu meddyginiaeth.

Camdriniaeth rywiol, fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol digroeso, cyffwrdd amhriodol, trais, ymosodiad rhywiol neu weithgareddau rhywiol nad ydych wedi rhoi eich caniat芒d iddynt i ddigwydd neu lle rhoddwyd pwysau arnoch i roi caniat芒d iddynt i ddigwydd.

Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol fel cael eich dychrynu, bygwth, camdriniaeth neu bychanu ar lafar, cael eich beio, rheoli neu aflonyddu, cael eich anwybyddu ar bwrpas neu eich atal rhag cael ffrindiau, teulu, gwasanaethau neu gymorth.

Esgeulustod fel anwybyddu eich anghenion meddygol neu gorfforol, atal mynediad i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, ddim yn gofalu amdanoch yn gywir, ddim yn eich darparu 芒 digon o fwyd neu鈥檔 eich rhoi mewn perygl.

Gallai unrhyw un o鈥檙 ffurfiau hyn o gamdriniaeth fod yn fwriadol neu fod o ganlyniad i anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Weithiau gall pobl gael eu cam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Pwy all achosi camdriniaeth?

Gallwch adnabod y person sy鈥檔 gyfrifol am y gamdriniaeth a gallai fod yn:

  • Gofalydd neu wirfoddolwr/wraig sy鈥檔 cael eu talu.
  • Gweithiwr/wraig iechyd, gofal cymdeithasol neu weithiwr/wraig arall. Ffrind neu gymydog.
  • Preswylydd arall neu ddefnyddiwr/wraig gwasanaeth.
  • Perthynas 鈥 mae edrych ar 么l oedolyn archolledig yn gallu bod yn anodd. Gall gofalyddion deimlo鈥檔 unig ac o dan bwysau ambell waith. Rhywun sy鈥檔 ecsbloetio pobl archolledig yn fwriadol.
  • Unrhyw un arall sydd 芒 mynediad at y person dan sylw

Beth ddylwn i wneud?

Os ydych yn cael eich cam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn cael eu cam-drin, rhaid i chi ddweud wrth rywun. Peidiwch 芒 chymryd yn ganiataol bydd rhywun arall yn dweud a pheidiwch 芒 phoeni os ydych yn meddwl eich bod yn anghywir - mae dal yn bwysig bod rhywun 芒 phrofiad a chyfrifoldebau yn edrych i mewn i鈥檙 mater. Cyfrifoldeb y gwasanaethau cymdeithasol yw gwneud hyn.

Os ydych chi neu os ydych yn adnabod rhywun sy鈥檔 cael eu cam-drin ac sydd mewn perygl, rhaid i chi wneud rhywbeth yn syth er mwyn eu hatal nhw neu eraill rhag cael eu niweidio. Dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredydd beth sy鈥檔 digwydd.

Os ydych yn meddwl bod trosedd wedi digwydd, fel trais, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a gwnewch yn si诺r nad ydych wedi symud neu ddinistrio unrhyw dystiolaeth.

Os ydych yn poeni am gysylltu 芒鈥檙 heddlu gallwch wastad gysylltu 芒 gwasanaethau cymdeithasol er mwyn trafod pethau yn gyntaf. Os ydych yn pryderu am siarad 芒 gwasanaethau cymdeithasol gallech ofyn i rywun i siarad 芒 ni ar eich rhan. Gall fod yn nyrs, gofalydd, eiriolwr/wraig, ffrind neu berthynas rydych yn ymddiried ynddynt.

Lle bynnag rydych yn byw, dim ots os ydyw鈥檔 gartref gofal neu gartref eich hunan neu le bynnag rydych wedi ymweld, os ydych wedi profi neu weld camdriniaeth, gallwch ffonio gwasanaethau cymdeithasol.

Efallai bydd aelodau staff sy鈥檔 gweithio gydag oedolion archolledig yn pryderu am y canlyniadau o roi gwybod am gamdriniaeth. Rhaid i chi ddweud wrth rhywun beth sydd yn digwydd.

Does dim rhaid i chi ddweud pwy ydych chi, ond gall hyn ei gwneud hi鈥檔 anoddach i ni i archwilio ac amddiffyn naill ai chi neu鈥檙 person sy鈥檔 cael eu cam-drin.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod am y gamdriniaeth?

Pan fydd rhywun yn roi gwybod am gamdriniaeth bydd ymholiadau yn cael eu cynnal a fydd yn dilyn Polis茂au a聽 Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu Oedolion Archolledig Cymru, a gall arwain at archwiliad ffurfiol. Gall gynnwys nifer o asiantaethau fel y gwasanaethau iechyd neu鈥檙 heddlu. Bydd camau鈥檔 cael eu cymryd wedyn i sicrhau eich bod chi neu鈥檙 person sy鈥檔 cael eu cam-drin yn cael eich diogelu/eu diogelu.

Bydd cymorth a chyngor yn cael eu cynnig i chi er mwyn eich helpu i wneud unrhyw benderfyniadau a鈥檆h galluogi i gymryd camau i roi terfyn ar y gamdriniaeth a sicrhau nad ydyw鈥檔 digwydd eto. Bydd unrhyw beth sy鈥檔 cael ei ddweud yn cael ei drin mewn modd sensitif, ond efallai rhennir y wybodaeth 芒 phobl eraill er mwyn iddynt fedru helpu i archwilio.

Cyfrinachedd

Pan wneir honiad, bydd yna wybodaeth efallai y bydd rhaid i ni ei rannu ag eraill, fel yr heddlu neu bobl sy鈥檔 monitro ansawdd gwasanaethau cofrestredig. Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod y wybodaeth ond yn cael ei rannu 芒鈥檙 bobl sy鈥檔 cymryd rhan yn y broses.

Manylion cyswllt:- Os oes gennych ofidion ynghylch oedolyn archolledig neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒鈥檙 canlynol:

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent:

rhif ff么n:聽 01495 315700
别-产辞蝉迟:听 info@blaenau-gwent.gov.uk
ffacs: 01495 315265minicom:聽 01495 355959

Os ydych yn byw yng Nghaerffili:

rhif ff么n:聽 01443 864563
别-产辞蝉迟:听 povateam@caerphilly.gov.uk
ffacs: 01443 864664

Os ydych yn byw yn Nhorfaen:

rhif ff么n:聽 01495 762200
e-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk
ffacs: 01633 648794

Os ydych yn byw yng Nghasnewydd:

rhif ff么n:聽 01633 656656
e-bost: info@newport.gov.uk

Os ydych yn byw yn Sir Fynwy:

rhif ff么n:聽 01291 638928
别-产辞蝉迟:听 monpovaduty@monmouthshire.gcsx.gov.uk

Os oes argyfwng ac mae angen i chi gysylltu 芒 ni tu allan i oriau鈥檙 swyddfa ffoniwch ein T卯m Dyletswydd Brys ar: 0800 328 4432

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y linc isod:聽

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig 芒:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch 芒 Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch 芒 hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ff么n: 01495 315700
贰-产辞蝉迟:听DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
贰-产辞蝉迟:听info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB