天美传媒

Prosiect Lluosi

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen gwerth 拢560 miliwn i helpu i drawsnewid bywydau pobl ledled y DU. Mae Cyngor 天美传媒 wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi datblygiad rhifedd ymhlith oedolion ar draws y sir.

Mae rhifedd yn golygu gallu defnyddio mathemateg yn gymwys yn eich bywyd bob dydd, gartref, ac yn y gwaith. Mae鈥檔 cynnwys rheoli arian gartref, helpu鈥檆h plant gyda鈥檜 gwaith cartref, deall ystadegau yn y newyddion, a gwella sgiliau mathemateg sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith.

Gall gwella sgiliau rhifedd gynyddu鈥檙 tebygolrwydd o gyflogaeth, cyflogau uwch, a llesiant gwell. Mae hefyd yn agor drysau i fwy o gyfleoedd hyfforddi, gan baratoi鈥檙 ffordd ar gyfer sicrhau swydd fedrus 芒 chyflog uwch!

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw oedolion (16+) sy鈥檔 byw ym Mlaenau Gwent. Nod y cyrsiau hyn yw cynyddu eich hyder, eich helpu i ddeall mathemateg yn eich bywyd bob dydd, a hyd yn oed eich helpu i ddeall sut i gefnogi taith fathemategol eich plentyn!

Mae pob un o鈥檔 cyrsiau yn rhydd rhag barn ac yma i gefnogi鈥檙 dysgwyr yn y ffordd orau y gallant. Dewiswch o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys:

  • Gwneud i Hyder Gyfrif
  • Fy Rhifau Cyntaf
  • Mesur ar gyfer Coginio

Rydym yn gobeithio cyhoeddi mwy dros y misoedd nesaf!

Cyrsiau i Ddod:

Gwneud i Hyder Gyfrif yng Nghanolfan Dechrau鈥檔 Deg Cwm (yn dechrau ddydd Mawrth 20 Chwefror am 5 wythnos)

Gwneud i Hyder Gyfrif yng Nghanolfan Dechrau鈥檔 Deg Sirhywi (yn dechrau ddydd Iau 22 Chwefror am 5 wythnos)

Fy Rhifau Cyntaf yng Nghanolfan Dechrau鈥檔 Deg Swffryd (yn dechrau ddydd Mawrth 20 Chwefror am 5 wythnos)

Fy Rhifau Cyntaf @ Nghanolfan Dechrau鈥檔 Deg Pen-y-bryn (yn dechrau ddydd Iau 22 Chwefror am 5 wythnos)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 ni ar 01495 355342 neu 07484039573. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn multiply.info@blaenau-gwent.gov.uk.

I gadw lle ar unrhyw un o鈥檔 cyrsiau, ewch i: