ÌìÃÀ´«Ã½

Gofal Plant

Dewis Gofal PlantÌý

Mae dewis y math cywir o ofal plant yn benderfyniad pwysig ac yn un personol iawn; mae’r math gorau o ofal plant i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol. Ìý

Gall y gwahanol fathau o ddarpariaeth ymddangos yn ddryslyd heb wybodaeth ddigonol. Ein nod yw sicrhau eich bod yn gallu gwneud dewis hysbys, gan wybod eich bod wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.ÌýÌýÌý

Y prif ddewisiadau ar gyfer gofal plant yw gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, clybiau gofal plant ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofalwyr plant yn y cartref. Ar ben hynny, mae clybiau chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig gofal a gweithgareddau ar gyfer plant cyn iddynt fynd i’r ysgol, yn aml am ran o’r diwrnod yn unig.Ìý

Rhaid i unrhyw ddarparwr o wasanaeth ble mae plant dan 12 yn derbyn gofal am gyfnod o ddwy awr neu’n hirach gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol CymruÌý(CSSIW)Ìýyn unol â Deddf PlantÌý1989.ÌýGellir dod o hyd i wybodaeth ar safonau isafswm oddi wrthÌýCSSIW (dolen yn y safleoedd cysylltiedig).ÌýÌýMae pob lleoliad ym Mlaenau GwentÌýyn cael eu hannog i ennill safonau sicrwydd ansawdd trwy’r Cynllun Sgôr Amgylcheddol (ERS) ac mae’r sgorau’n cael eu cyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfryngau.Ìý Ìý

Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu cynnig cyngor a chyfarwyddyd ar faterion yn ymwneud â gofal plant.ÌýÌý

Ìý
Gwasanaeth Gwybodaeth i DeuluoeddÌý

Rhadffôn: 08000 32 33 39Ìý
E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk
Neges Destun: 07860 025100Ìý

Children at play

Dyletswydd Digonolrwydd Gofal PlantÌý

Fe osododd Deddf Gofal PlantÌý2006Ìýddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau, cyhyd â’i bod yn rhesymol ymarferol, bod y ddarpariaeth gofal plant yn ddigonol i fodloni anghenion rhieni yn ei ardal. Mae hefyd yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, darpar rieni a’r sawl gyda chyfrifoldeb rhieni i ofalu am blentyn, yn ymwneud â gofal plant.Ìý

Mae Digonolrwydd Gofal Plant yn cael ei asesu’n llawn bob tair blynedd gan gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant gydag Arolwg Blynyddol yn cael ei gynnal i ddiweddaru data cyflenwi (gweld y Dogfennau Cysylltiedig).Ìý

Bydd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant nesaf yng Ngwanwyn 2025.Ìý

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae

Rhif Ffôn: 01495 355584

Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, ÌìÃÀ´«Ã½, NP13 3BN

Cyfeiriad e-bost:ÌýClaire.smith@blaenau-gwent.gov.uk