天美传媒

Gofal Cymunedol

Beth yw gofal yn y gymuned?

Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 yn nodi sut y dylai adrannau Gwasanaeth Cymdeithasol ddarparu gofal.聽 Yn gynyddol mae hyn mewn partneriaeth gyda gwasanaethau iechyd megis meddygon teulu, nyrsys ardal a staff therapi.聽 Mae gwasanaethau Gofal Canolraddol a all olygu nad yw pobl yn mynd i鈥檙 ysbyty a鈥檜 helpu i ddychwelyd i鈥檞 cartrefi eu hunain yn llawer cynt gyda help os oes angen yn rhan bwysig o hyn.

Mae鈥檙 Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol yn cynnwys pobl sydd 聽聽

  • ag anabledd neu amhariad synhwyraidd;
  • 芒 gwaeledd cronig neu yn derfynol wael;
  • yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
  • dros 65 oed gydag unrhyw un o鈥檙 uchod. 聽 聽 聽 聽 聽

Anelwn helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i fyw bywyd mor annibynnol a chrwn ag sydd modd yn eu cartrefi ein hunain.聽 Mae鈥檔 hanfodol i ni ystyried anghenion gofalwyr.聽 Rydym hefyd yn anelu i ddarparu gwasanaethau mor deg ac mor gyfartal ag sydd modd, gan roi ystyriaeth i anghenion neilltuol.

Beth all gwasanaethau cymdeithasol wneud?

Mae gan Reolwyr Gofal a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fynediad i amrediad eang o wybodaeth a gwasanaethau, a gall unrhyw un ohonynt fod yn addas ar gyfer darpar ddefnyddwyr unigol.聽 Mae anghenion pawb yn wahanol felly anelwn weithio gyda phob person i gytuno ar eu hanghenion a sut y medrent gael eu diwallu.

Beth fedrai fod mewn pecyn gofal?

Medrai hyn fod ar wedd gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol, asiantaethau annibynnol neu daliadau uniongyrchol a fydd yn eich helpu i ddewis eich gofalwyr eich hun.

  • Medrai Gofal Cartref roi cymorth gyda thasgau nad ydych yn medru ymdopi 芒 hwy neu yn ei chael yn anodd eu gwneud ar ben eich hun.
  • Mae Pryd ar Glyd yn anelu i gyflawni pryd safon uchel a maethlon ar amser addas am bris rhesymol.
  • Mae Addasiadau i鈥檆h Cartref (e.e. ramp) ac Offer Byw Bob Dydd (ee cymhorthion ymolchi) ar gael i鈥檆h cynorthwyo.聽 Asesir ar eu cyfer gan Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gall Canolfannau Dydd roi cefnogaeth hanfodol, cwmni ac efallai gyfle i ddatblygu diddordebau newydd.
  • Medrir trefnu Gofal Seibiant.聽 Er enghraifft, medrech dreulio wythnos mewn cartref preswyl fel y gall y person sy鈥檔 gofalu amdanoch fynd ar wyliau.
  • Medrai Nyrsio Ardal olygu aros am gyfnod byrrach yn yr ysbyty drwy ddarparu gofal nyrsio pan ddewch adref.
  • Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd arall o dderbyn help.聽 Yn lle鈥檙 gwasanaethau eu hunain, mae hwn yn swm a gytunwyd o arian i鈥檆h galluogi i brynu eich gofal eich hun.聽 Mae鈥檔 seiliedig ar yr anghenion a ddynodwyd yn eich asesiad.聽 Darperir help i鈥檆h galluogi i gyflogi eich gofalwyr eich hun.聽 Penderfynwch chi pa fath o ofal sydd gennych a phwy sy鈥檔 ei ddarparu, drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol.聽 Mae taflen ar wah芒n am Daliadau Uniongyrchol.

Mae鈥檙 rhai yn ychydig o enghreifftiau, mae鈥檙 help y medrwch ei dderbyn yn dibynnu ar beth yw鈥檆h anghenion.

Pwy sydd 芒 hawl i鈥檙 gwasanaethau hyn?

Y bobl sy鈥檔 derbyn y gwasanaethau fydd y rhai sydd yn yr angen mwyaf ac mae gan bob gwasanaeth ffordd o fesur hyn. Pan gysylltwch 芒 ni, medrwn esbonio os ydych yn debygol o fod yn gymwys.

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf?

Byddwn angen peth gwybodaeth syml amdanoch chi a鈥檆h sefyllfa.聽 Bydd hyn yn ein helpu i asesu鈥檙 math o gymorth y medrwch fod ei angen.聽 Os oes angen, medrwn wedyn drefnu asesiad i ddynodi eich anghenion ac awgrymu pecyn o ofal fydd yn anelu i ateb yr anghenion hynny.聽 Medrai Rheolwr Gofal ymweld 芒 chi i wneud hyn a medrai gynnwys pobl eraill medrai鈥檆h meddyg.聽 Os oes rhywun yn edrych ar eich 么l, gallant hwythau fod ag anghenion yr hoffem i ni eu helpu 芒 hwy.

Cyfrinachedd

Cedwir unrhyw wybodaeth a geir gennych yn hollol gyfrinachol ac mae gennych hawl i edrych ar hyn ar unrhyw amser.

A oes gennyf lais yn yr hyn rwy鈥檔 ei dderbyn?

Oes, rhoddir ystyriaeth i鈥檆h barn ar bob cam ac rydym hefyd yn eich annog fel defnyddiwr gwasanaeth a鈥檆h gofalydd i gymryd rhan wrth gynllunio gwasanaethau.聽 Byddai gennym ddiddordeb cael eich barn am ein gwasanaethau a chlywed am unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer eu gwella.

Ein nod yw helpu.聽 Fodd bynnag, os ydych yn anhapus gyda鈥檙 gwasanaeth a ddarparwn ac eisiau gwneud ymholiadau, mae gennych hawl i wneud hyn.聽 Mae manylion llawn ar sut i ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr Adran ar gael yn ein taflen cwynion.

Fydd yn rhaid i mi dalu?

Gall fod yn rhaid talu am rai o鈥檙 gwasanaethau a ddarperir.聽 Caiff y swm y bydd angen i chi ei dalu ei benderfynu gan asesiad o鈥檆h amgylchiadau ariannol yn ogystal ag edrych ar ba fuddion ariannol y medrwch fod 芒 hawl iddynt.聽 Gall eich Rheolydd Gofal esbonio hyn i chi.

Medrwn ddarparu cyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael sy鈥檔 cynnwys:聽 聽 聽 聽聽

  • Gan Gwasanaethau Cymdeithasol: gofal cartref, pryd ar glyd, cyfarpar byw bob dydd, gofal preswyl, gofal dydd, gofal seibiant, pasiau bws, teleffonau, bathodynnau car, therapi galwedigaethol yn y gymuned, help ar broblemau personol, teleofal a Thaliadau Uniongyrchol.
  • Gan yr Awdurdod Iechyd: nyrsio ardal ac yn y gymuned, ffisiotherapi yn y gymuned, dewis offer nyrsio/meddygol.
  • Gan yr Adran Tai a Chymdeithasau Tai: tai gwarchod, addasiadau i鈥檆h eiddo.
  • Gan Dimau Gofal Iechyd Sylfaenol: ciropodeg, awdioleg (cymhorthion a phrofion clyw).
  • Gan y Sector Annibynnol (Gwirfoddol a Phreifat): grwpiau hunangymorth a chefnogaeth, gofal preswyl a nyrsio.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig 芒:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch 芒 Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch 芒 hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ff么n: 01495 315700
贰-产辞蝉迟:听DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
贰-产辞蝉迟:听info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB