O 25 Mawrth 2022 bydd nawr yn angenrheidiol i chi wneud apwyntiad gyda'r Cofrestrydd i gofrestru marwolaeth, ni allwn gofrestru marwolaeth dros y ff么n o'r dyddiad hwn ymlaen. Cysylltwch 芒'r Cofrestrydd ar 01495 369213 i wneud apwyntiad.
Mae gwybodaeth yma am sut y gallwch gofrestru marwolaeth a pha wybodaeth y bydd angen i chi ddod gyda chi i'ch apwyntiad.
I gofrestru marwolaeth ym Mlaenau Gwent, dylech gasglu'r dystysgrif feddygol gan y meddyg neu ysbyty yna ffonio 01495 369213 i drefnu apwyntiad.
Gofynnir i chi nodi fod amserlen statudol o 5 diwrnod i gofrestru marwolaeth
Lle dylwn fynd ar gyfer yr apwyntiad?
Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru yn Nh欧 Bedwellte. Lleoliad, manylion parcio ac oriau agor y swyddfa gofrestru.
Gallwch hefyd gofrestru marwolaeth mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr drwy ddatganiad. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y manylion ar eich rhan i'r Swyddfa Gofrestru berthnasol, dylid nodi y gall hyn oedi'r angladd.
Pwy all gofrestru marwolaeth?
- Perthynas i'r ymadawedig
- Person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
- Person sy'n trefnu'r angladd (nid yr ymgymerwr).
Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?
Bydd y Cofrestrydd yn rhoi cop茂au o'r dystysgrif farwolaeth lawn am gost o 拢11 yr un.
Gall fod angen tystysgrifau ar gyfer:
- Profiannaeth neu lythyrau gweinyddu
- Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- Pensiynau preifat
- Cwmn茂au preifat
- Cyfreithwyr
Beth ddylwn ddod gyda chi?
Mae'n rhaid i chi ddod 芒'r dystysgrif feddygol a gyhoeddwyd gan y meddyg. Heb y dystysgrif yma ni all y Cofrestrydd gofrestru'r farwolaeth. Os hysbyswyd y farwolaeth i Swyddfa'r Crwner, byddant yn eich cynghori beth i'w wneud. Mae hefyd yn ddefnyddiol dod 芒 thystysgrif genedigaeth neu basport yr ymadawedig i helpu gwirio sillafu, tystysgrif priodas (os yn berthnasol) cherdyn meddygol. Hefyd gall y Cofrestrydd gynnig y gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith lle gallwn hysbysu nifer o adrannau llywodraeth am y farwolaeth. Gofynnir i chi ddod 芒 rhif yswiriant cenedlaethol, bathodyn glas (os yn berthnasol) a thrwydded yrru yr ymadawedig.
Beth sydd angen i'r Cofrestrydd ei wybod am yr ymadawedig?
- Dyddiad a man marwolaeth
- Dyddiad a man genedigaeth
- Enw llawn ac os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod, y cyfenw/enw teuluol a ddefnyddiwyd cyn iddi briodi.
- Eu galwedigaeth
- Eu cyfeiriad arferol
- Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth y priod neu bartner sifil
- Manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus - er enghraifft gwasanaethau sifil neu lluoedd arfog.
Pan fydd y cofrestriad wedi鈥檌 gwblhau, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi wirio fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi鈥檙 gofrestr. Dylech wirio鈥檙 wybodaeth yn ofalus cyn llofnodi. Unwaith y bydd y gofrestr wedi鈥檌 llofnodi ni fydd y cofrestrydd bob amser yn medru cywiro unrhyw gamgymeriadau ar unwaith a gall fod yn rhaid gwneud cais i鈥檙 Cofrestrydd Cyffredinol am ganiat芒d i gywiro.
Pa ddogfennau fyddaf i yn eu cael?
'Ffurflen werdd' i drefnu'r angladd. Bydd angen i chi roi hyn i'r ymgymerwyr. Os cafodd y farwolaeth ei chyfeirio at y crwner, gall fod eisoes fod wedi rhoi'r ffurflen yma i'r ymgymerwyr.
Ffurflen BD8 i hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiwn am unrhyw bensiwn gwladol a budd-daliadau yn ymwneud 芒'r ymadawedig.
Llythyr cadarnhau Dweud Wrthym Unwaith
Gallwch brynu tystysgrifau geni am ffi o 拢11 yr un