Yma gallwch ganfod gwybodaeth ar pwy, sut a ble y gallwch gofrestru genedigaeth, a pha wybodaeth y bydd angen i chi ddod gyda chi i'ch apwyntiad.
Mae'r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i chi gofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod.
Os ganwyd eich baban ym Mlaenau Gwent, ffoniwch 01495 369213 i drefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth.
Gallwch hefyd fynychu'r Swyddfa Gofrestru ym Mlaenau Gwent os cafodd eich baban ei eni mewn man arall a rhoi Datganiad Genedigaeth. Bydd y Cofrestrydd wedyn yn anfon y manylion ar eich rhan i'r ardal lle ganwyd y baban. Dylid nodi y bydd oedi cyn derbyn Tystysgrifau Geni.
Ble dylwn i fynd ar gyfer yr apwyntiad?
Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru i gofrestru genedigaeth. Lleoliad, manylion parcio ac amserau agor swyddfa gofrestru.
Pwy all gofrestru genedigaeth?
Un ai fam neu dad y baban os yw'r rhieni yn briod 芒'i gilydd.
Os nad yw'r rhieni yn briod 芒'i gilydd
- Y fam
- Y fam a'r tad gyda'i gilydd
Dylid nodi os nad yw'r rhieni yn briod 芒'i gilydd adeg yr enedigaeth mai dim ond os yw'r tad yn dod gyda'r fam i gofrestru'r enedigaeth y gallwn roi manylion y tad ar y dystysgrif genedigaeth.
Dogfennau y dylech ddod gyda chi i gofrestru genedigaeth
Dylech ddod ag o leiaf 1 math o adnabyddiaeth gyda chi pan ewch i'r Swyddfa Gofrestru. Gallwch ddod 芒:
- Pasbort
- Tystygrif genedigaeth
- Gweithred unran
- Trwydded yrru
- Tystiolaeth o gyfeiriad (bil cyfleustod)
- Bil Treth Gyngor
- Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
A oes cost am gofrestru genedigaeth?
Ni chodir t芒l am y cofrestru. Byddwch yn derbyn tystysgrif genedigaeth fer am ddim yn dangos enwau cyntaf, cyfenw, rhyw a dyddiad geni'r plentyn.
Am ffi o 拢11 gallwch gael copi o'r dystysgrif enedigaeth lawn sydd hefyd yn cynnwys manylion y rhiant/rhieni.