ÌìÃÀ´«Ã½

Cynllunio ar gyfer, ac Ymateb i, Argyfyngau

Mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw un ohonom yn chwilio’n hunain mewn argyfwng neu drychineb. Fodd bynnag, gall argyfyngau ddigwydd a phan maen nhw, mae ganddynt y potensial i darfu ar y gymuned, weithiau gyda goblygiadau difrifol.

Mae’r ystod eang o wasanaethau mae’r Cyngor yn eu darparu o ddydd i ddydd, ynghyd â’n harbenigedd a gwybodaeth leol yn golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i ymateb i ddigwyddiadau anrhagweladwy neu annisgwyl allai effeithio ar ein bywydau ar unrhyw adeg ac mewn sawl ffordd wahanol.

Beth rydym yn gwneud

Nod y Tîm Trefniadau Dinesig Wrth Gefn yw lleihau’r tebygolrwydd o argyfyngau ac os ydynt yn digwydd, lleihau eu heffaith ar ein cymunedau. 

  • Cynllunio: rydym yn asesu pa risgiau allai effeithio ar ein cymunedau ac yn datblygu cynlluniau i reoli a gostwng eu heffaith.
  • Hyfforddiant ac ymarfer: rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer ein staff ac eraill mewn ymateb i argyfwng, i sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol gyda’n gilydd pan fo angen.
  • Cyswllt: rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol cyfagos, y gwasanaethau brys, cyfleustodau, mudiadau gwirfoddol a rhai eraill priodol, sy’n ein caniatáu i rannu gwybodaeth a sicrhau bod ein cynlluniau a gweithdrefnau’n cyd-fynd â’i gilydd er mwyn i ni allu darparu ymateb cydgysylltiedig i argyfyngau.
  • Ymateb: mae gennym system Swyddog Argyfwng ar Ddyletswydd 24-awr i gydlynu ymateb y Cyngor i argyfyngau a gweithio gydag ymatebwyr brys eraill.

Sut rydym yn gweithio gydag ymatebwyr brys eraill

Gall argyfwng ddigwydd ar unrhyw bryd, a bydd nifer o wahanol yn chwarae rhan yn ymateb i’r argyfwng.  I sicrhau bod yr ymateb yn gydgysylltiedig mae cynlluniau a threfniadau yn eu lle  er mwyn i bawb wybod am beth maen nhw’n gyfrifol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaethau Brys, Adnoddau Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill yng Ngwent i leihau’r tebygolrwydd o argyfyngau’n digwydd, cynyddu’n gallu i ymateb yn briodol ac adfer ar ôl argyfyngau. 

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i:

  • Atal yr argyfwng rhag gwaethygu.
  • Achub bywydau.
  • Lleddfu’r dioddef gan y sawl a effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad.
  • Adfer normalrwydd mor gynted â phosib.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut rydym yn gweithio gydag eraill wrth gynllunio ar gyfer, ac ymateb i, argyfyngau ar .

Risgiau rydym yn eu hwynebu

Mae ‘Risgiau rydym yn eu hwynebu’ yn ymwneud â’ch gwneud yn ymwybodol o’r risgiau y gallech eu hwynebu a chynghori ar y camau y gallech eu cymryd.

Dydyn ni ddim yn dweud y byddant yn digwydd; rydym dim ond eisiau eich gwneud yn ymwybodol o beth allai ddigwydd.  Gall y risgiau gynnwys tywydd garw megis llifogydd, neu gael eich dal yn sgil effaith damwain traffig.  Gallwch helpu’ch hun trwy baratoi a gwybod beth i’w wneud pe byddai rhywbeth yn digwydd.  Gellir dod o hyd i wybodaeth ar y risgiau ar .

Beth allwch chi ei wneud?

Mae bod yn barod am argyfwng mawr hefyd yn golygu eich bod yn gallu delio’n fwy effeithiol gyda rhai bach. Trwy gymryd ychydig gamau syml, gallwch leihau effaith argyfwng ar eich teulu a’ch cartref. 

Gellir dod o hyd i gyngor ar ddiogelu’ch cartref, teulu, cymuned a busnes ar .

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Trefniadau Dinesig Wrth Gefn
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Canolfan Ddinesig, Glynebwy NP23 6XB
Cyfeiriad e-bost: emergency.planning@blaenau-gwent.gov.uk