Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, wedi ymweld 芒 Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri yn ei gartref newydd yng Nghapel y Drindod, 天美传媒.
Mae'r hen gapel yn y dref wedi cael ei adfywio gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru - cyllid Trawsnewid Trefi, Grant Trawsnewid Llyfrgelloedd, a'r Grant Di-garbon. Cafwyd hefyd Gyllid Ffyniant Gyffredin (Llywodraeth y DU) ar gyfer y prosiect.
Mae'r llyfrgell newydd wrth galon y gymuned leol ac yn darparu mynediad hawdd i ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, gan gynnwys Hyb Cymunedol Cyngor 天美传媒, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a chymorth digidol, a Chyngor ar Bopeth. Dyma hefyd y lleoliad newydd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, gan gynnig ystod eang o gyrsiau a dosbarthiadau. Mae'r Llyfrgell fodern newydd yn cynnig Wi-Fi am ddim, ac mae pob llawr yn cynnig mynediad hawdd gyda lifft i gynorthwyo'r rhai sydd ei angen. Rheolir y llyfrgell gan Aneurin Leisure Trust.
Gwnaeth y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio; Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas a Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd 天美传媒, Tracey Jones, gwrdd 芒 Jayne Bryant AS cyn iddi gael taith dywys o amgylch yr adeilad a sgwrsio 芒'r rhai fu鈥檔 gweithio ar y prosiect ac aelodau o'r gymuned sy'n elwa o'r gwasanaethau.
Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfle i weld yr holl wasanaethau hyn a'r hyn maen nhw鈥檔 ei gynnig gan hefyd gwrdd 芒 gr诺p cymdeithasol Cymraeg a oedd yn mwynhau eu digwyddiad cymdeithasol rheolaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:
"Mae Capel y Drindod yn adeilad pwysig iawn i Abertyleri ac rydw i mor falch ein bod wedi gallu cefnogi ei drawsnewidiad drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, gan wneud ystod eang o wasanaethau'n fwy hygyrch i'r gymuned leol. Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn 么l i ddefnydd gweithredol yn un o gonglfeini ein strategaeth adfywio ac mae'n wych gweld bod y buddsoddiad hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol."
Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor 天美传媒 dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant AS i Abertyleri heddiw i ddangos sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i adfywio Capel y Drindod a rhoi gwasanaethau hanfodol wrth galon y gymuned. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Aneurin Leisure Trust rydyn ni鈥檔 gwneud Capel y Drindod yn ganolfan ffyniannus i'r dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, mentrau cymunedol a gweithgareddau canol y dref. Mae hefyd yn cynnig lleoliad gwych i鈥檔 Hyb Cymunedol, gan roi mynediad hawdd i breswylwyr at ystod o wasanaethau鈥檙 cyngor, a ffynhonnell o gyngor ar garreg eu drws.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Abertyleri ac mae ailddatblygu Capel y Drindod yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd parhaus ehangach ar gyfer yr ardal ac yn ategu cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig ag adfywio sydd wedi'u cyflawni yng nghanol y dref yn ddiweddar."
Dywedodd Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Llyfrgelloedd 天美传媒:
"Mae'r gofod llyfrgell newydd yn anhygoel, ac mae fy nh卯m a minnau wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl aelodau yn mwynhau defnyddio鈥檙 amgylchedd newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y gofod newydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr rydyn ni鈥檔 ei ddarparu."
Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:
"Credwn fod y gofod newydd yn ychwanegiad gwych i ganol tref Abertyleri. Mae鈥檙 ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnig cyfleusterau gwych. Rydyn ni鈥檔 gwerthfawrogi bod lleoliad blaenorol y ganolfan ar dir ysgol yn rhwystr i nifer o bobl rhag ymgysylltu 芒 dysgu, felly trwy ddarparu adnodd gyda chyfleusterau eithriadol rydyn ni鈥檔 gobeithio annog mwy o bobl i roi cynnig ar gyrsiau newydd."
Mae Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri yng Nghapel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell 天美传媒 ar gael yn: