Caiff mwy o gynlluniau Hwyl a Bwyd nag erioed eu rhannu ar draws Cymru yn ystod gwyliau'r haf gan roi cyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu a mwynhau prydau iach a maethlon ac mae 天美传媒 yn ymuno yn yr hwyl.
Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen seiliedig mewn ysgolion a gaiff ei ran-gyllido gan Lywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol gan gynghorau a'i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Caiff y cynlluniau eu cyflwyno'n lleol gan staff ysgolion a phartneriaid, gan ddarparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth a gweithgaredd corfforol i blant mewn amgylchedd cymdeithasol a hwyliog yn ystod gwyliau haf yr ysgolion.
Mae 天美传媒 yn hybu ethos Bwyd a Hwyl mewn pedair ysgol ar draws y Fwrdeistref. Yr ysgolion sy'n cymryd rhan eleni yw Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ym Mrynmawr, Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn Rasa, Cymuned Ddysgu Abertyleri (campysau preifat) ac Ysgol Gynradd Trehelyg yng Nglynebwy. Mae tua 160 o ddisgyblion a theuluoedd yn cymryd rhan gyda'r ethos yn canoli ar weithgareddau'n seiliedig ar ffitrwydd, bwyta'n iach a gwerthfawrogi'r amgylchedd.
Caiff y rhaglen ei harwain gan staff o'r ysgolion sy'n cymryd rhan, gyda chefnogaeth gan y Cyngor ar gyfer arlwyo a glanhau. Caiff blant frecwast a chinio iach a snaciau maethlon fel rhan o'r diwrnod. Unwaith eto eleni mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn trefnu elfen chwaraeon a ffitrwydd y cynllun gyda gweithgareddau tebyg i b锚l-rwyd, rygbi, golff troed a dyddiau mas i barciau lleol ymysg y llu o weithgareddau a drefnwyd ar gyfer yr holl blant.
Dysgir y plant sut i goginio prydau iach sylfaenol a gwahoddir rhieni ar ddiwrnod ymgysylltu 芒 theuluoedd i ymuno 芒'r plant am y diwrnod ynghyd 芒'u brodyr a'u chwiorydd. Mae cynrychiolwyr o'r banc bwyd lleol hefyd yn dod i ddangos pa brydau maethlon iach y gellir eu gwneud o flychau'r banc bwyd.
Ers ei gyflwyno gyntaf yn 2016, mae'r rhaglen wedi tyfu'n gyflym flwyddyn ar 么l blwyddyn, a disgwylir y bydd 4,200 o ddisgyblion yn manteisio o gynlluniau lleol yn eu hardaloedd ledled Cymru yn ystod yr haf. Mae hyn yn golygu y bydd 48% yn fwy o ddisgyblion na'r llynedd yn manteisio o'r cyfleoedd a roddir gan y rhaglen yr haf hwn. Roedd dwy ysgol yn cymryd rhan yn y cynllun ym Mlaenau Gwent y llynedd ac eleni mae nifer yr ysgolion wedi dyblu i bedair.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor 天美传媒:
"Mae'r Rhaglen Ymgyfoethogi Gwyliau Ysgol yn ffordd hwyliog a diddorol i gadw plant yn hapus, iach ac egn茂ol yn ystod gwyliau'r haf ac fel mam i ddau o fechgyn ifanc, gwn nad yw hynny'n rhwydd bob amser! Cawsom adborth gwych gan y plant a theuluoedd a gymerodd ran y llynedd felly rwy'n falch iawn ein bod, diolch i waith partneriaeth gwych, yn medru cynnig y cynllun unwaith eto ym Mlaenau Gwent ac i fwy o blant y tro hwn. Diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl a gobeithiaf y caiff pawb amser wrth eu bodd!"
Dywedodd Mrs Jones, rhiant yn Ysgol Gynradd Rhos-y-fedwen:
"Mae'r cynllun hwn yn wych. Mae fy nghrwt bach yn dod adre bob dydd ac yn dweud wrthyf am yr holl bethau gwych y mae wedi eu dysgu yn cynnwys yr wybodaeth am faeth. Pan wnaethon ni gofrestru ar gyfer y cynllun, doeddwn i ddim yn meddwl y byddai eisiau mynd gan ei bod yn wyliau'r ysgol ond ef yw'r cyntaf i godi yn y bore ac mae'n edrych ymlaen yn fawr i weld beth sy'n digwydd y diwrnod hwnnw. Mae'r prydau ysgol yn rhagorol ac mae'r gweithgareddau a drefnwyd gan yr ysgol ac awdurdod lleol yn ardderchog. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun yn parhau i gael ei redeg yn ein hysgol."