天美传媒

Ysgol yn Blaina yn dod yr Ysgol Prem Aware gyntaf yng Nghymru

Elusen The Smallest Things yn cyflwyno eu Gwobr Prem Aware i 聽Ysgol Gynradd Coed-y-Garn!

Mae Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn Nantyglo wedi derbyn gwobr Prem Aware The Smallest Things. Drwy gwblhau hyfforddiant ychwanegol a chamau i ddod yn Ysgol Prem Aware bydd gan staff addysgu yn Ysgol Gynradd Coed-y-Garn well dealltwriaeth o鈥檙 anghenion dysgu a all fod gan rai plant a anwyd cyn amser ac yn medru adnabod anghenion ynghynt, gan fedru rhoi cymorth amserol ac wedi ei dargedu.

Dywedodd Lauren Cairns, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed-y-Garn:

鈥淎r 么l ymrwymo yn gynharach eleni, rydym wrth ein bodd mai Coed-y-Garn yw鈥檙 ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Prem Aware The Smallest Things. Fel ysgol, rydym yn ymroddedig i wella llesiant a chefnogi dysgwyr, a bydd cael gwell dealltwriaeth o鈥檙 effaith y gall geni cyn amser ei gael ar unigolyn yn fanteisiol wrth gefnogi ein disgyblion a鈥檔 teuluoedd.鈥

Wrth longyfarch y camau a gymerwyd gan Ysgol Gynradd Coed-y-Garn dywedodd Catriona Oglivy, Sefydlydd a Chadeirydd The Smallest Things:

"Mae The Smallest Things yn hynod falch fod Ysgol Gynradd Coed-y-Garn wedi ymuno 芒鈥檔 rhestr gynyddol o ysgolion Prem Aware ar draws Prydain. Drwy wneud hynny maent wedi dangos eu hymroddiad i ddiwallu yr anghenion a all fod gan rai disgyblion a gafodd eu geni cyn amser. Gyda chyfartaledd o ddau i dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth yn cael eu geni cyn amser, gwyddom y gall athrawon fod 芒 rhan hanfodol wrth gefnogi a gwella鈥檙 canlyniadau hirdymor ar gyfer y garfan hon o blant. Mae bod ag athrawon wedi eu hyfforddi sy鈥檔 gwybod beth i gadw golwg amdano a sut i helpu disgyblion a gafodd eu geni cyn amser yn cael effaith mor gadarnhaol a deithiau addysgol plant.鈥

Mae cynllun gwobr Prem Aware The Smallest Things yn hyrwyddo defnyddio adnodd hyfforddiant ar-lein 鈥楪wybodaeth ar Eni Cyn Amser ar gyfer Gweithwyr Addysgol Proffesiynol鈥, adnodd hyfforddiant ar-lein a ddatblygwyd gan yr Athro Samantha Johnson a鈥檌 chydweithwyr yn Nh卯m Astudiaeth PRISM (鈥楶remature Infants鈥 Skills in Mathematics鈥). Mae鈥檙 adnodd ar-lein yn amlinellu yr effaith y gall geni cyn amser ei gael ar ddatblygiad ac addysg plant, ac yn cynnig ffyrdd ymarferol i roi cefnogaeth yn yr ysgol ar gyfer plant a gafodd eu geni cyn amser.

Er mai disgyblion a gafodd eu geni lawer cyn eu hamser (cyn beichiogrwydd o 28 wythnos) sy鈥檔 fwyaf tebygol o fod angen cymorth ychwanegol, dengys ymchwil y gall plant a anwyd ond ychydig wythnosau yn gynnar ddal wynebu anawsterau yn yr ysgol. Mae鈥檙 anawsterau gwybyddol a dysgu a gysylltir fel arfer gyda geni cyn amser yn cynnwys cyflymder prosesu arafach, anawsterau gyda鈥檙 cof, sgiliau gweledol-ofodol gwaelach, anawsterau sylw ac anawsterau gyda mathemateg.

Yn y llun gwelir Mrs Rebecca Hampton (Arweinydd Bugeiliol, Llesiant, Llais Disgyblion a Chysylltiadau Cymunedol) a Lynsey Gore (Rhiant a Llysgennad The Smallest Things).