天美传媒

Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn dathlu adroddiad arolwg

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn y Blaenau yn dathlu adroddiad arolwg rhagorol a ddisgrifiodd yr ysgol fel 鈥渃ynnes a chynhwysol鈥.

Daeth yr adroddiad, yn dilyn ymweliad diweddar gan ESTYN, i鈥檙 casgliad fod gan yr ysgol awyrgylch ac ethos cadarnhaol, gyda staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; disgyblion yn mwynhau dysgu, yn frwdfrydig a gyda pherthynas gref iawn gyda鈥檜 hathrawon a staff eraill. Mae鈥檙 pennaeth yn rhoi arweinyddiaeth gryf ac effeithlon, gan rannu cyfrifoldebau ymysg staff, gyda llywodraethwyr a staff yn arddangos caredigrwydd, parch ac agweddau cadarnhaol tuag at eraill ac at eu dysgu.

Gan gydnabod yr ymarfer rhagorol yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu, gofynnwyd i鈥檙 ysgol ysgrifennu astudiaeth achos ar ei gwaith yng nghyswllt effaith addysgu a defnydd yr amgylchedd dysgu i hyrwyddo profiadau dysgu dilys yn ei ganolfan adnoddau dysgu ar gyfer gwefan Estyn.

Dywedodd Lauren Cairns, Pennaeth yr Ysgol:

鈥淩wyf wrth fy modd fod Estyn wedi cydnabod ein hymrwymiad i lesiant a chefnogi dysgwyr yng Nghoed-y-Garn, mae eu canfyddiadau yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad pawb. Mae鈥檔 fraint enfawr bod yn bennaeth Coed-y-Garn, ac rwyf mor falch o鈥檙 plant a鈥檙 staff sy鈥檔 rhoi eu gorau ym mhopeth a wn芒nt.鈥

Ychwanegodd y Parch Roy Watson, Cadeirydd y Llywodraethwyr:

鈥淢ae鈥檙 llywodraethwyr yn cymryd rhan fawr mewn rhannu鈥檙 weledigaeth sydd gan y pennaeth a鈥檙 staff ar gyfer yr ysgol ac maent yn hollol gefnogol i ddarparu pob agwedd o鈥檙 cwricwlwm. Hoffwn ddiolch i鈥檙 cyrff llywodraethu am eu cyfraniadau gwirfoddol i fywyd yr ysgol, ac i鈥檙 pennaeth a鈥檙 staff am eu hymroddiad i blant Coed-y-Garn.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg Cyngor 天美传媒:

鈥淎m adroddiad gwych i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn! Dylai pawb yn yr ysgol a chymuned ehangach yr ysgol deimlo鈥檔 falch iawn o鈥檙 adroddiad hwn. Da iawn chi.

鈥淩ydym eisiau i鈥檔 holl blant a phobl ifanc ffynnu a chyflawni eu potensial llawn, a rydym yn ymroddedig i weithio gyda phob ysgol i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ansawdd uchel.鈥

Gallwch ddarllen adroddiad llawn yr arolwg yma: -