天美传媒

Ymgynghoriad Polisi Gorfodaeth a Chydymffurfiaeth

Mae鈥檙 ddau Gyngor yn cydweithio wrth gyflenwi Gwasanaethau Diogelu鈥檙 Cyhoedd - Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, a Thrwyddedu.

Mae'r polisi yn nodi beth y gall trigolion a busnesau ddisgwyl gan y gwasanaethau, y rhesymau pam y gallai camau gorfodi gael eu cymryd, a pha gyngor ac opsiynau gorfodaeth sydd ar gael.

Gwahoddir trigolion a busnesau i adolygu'r ddogfen bolisi drafft a gwneud sylwadau.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd Garth Collier o Gyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒:

"Mae'r ddau Gyngor wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac amwynderau鈥檙 bobl sy'n byw, gweithio ac yn ymweld 芒'r ardal, tra'n sicrhau bod yr orfodaeth a gynhaliwn yn deg, yn atebol, yn gyson, yn gymesur ac yn dryloyw.  Anogwn bobl i edrych trwy'r polisi ac i roi i ni unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt."

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg rhwng Dydd Llun 31ain Gorffennaf a dydd Gwener 25ain Awst.

I weld y dogfennau, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd

Gellir darparu adborth a sylwadau drwy gyfrwng y sianelau canlynol:

Drwy'r Post:
Rheolwr Gwasanaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒
Gwasanaethau Diogelu鈥檙 Cyhoedd
Rheolwr y Gwasanaeth
Y Ganolfan Ddinesig, Swyddfeydd Dinesig
Glyn Ebwy


Drwy e-bost:

EnvironmentalHealthMailbox@blaenau-gwent.gov.uk

 Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, caiff y polisi, ynghyd ag unrhyw sylwadau, eu hadolygu a'u cyflwyno i'r Cyngor llawn.