Nod Siarter Marw i Weithio y TUC yw lliniaru peth o鈥檙 pwysau os yw gweithiwr yn cael diagnosis angheuol. Mae鈥檔 nodi ffordd a gytunwyd ar gyfer trin gweithiwr a鈥檌 gefnogi mewn achos o ddiagnosis angheuol.
听
Mae鈥檙 siarter yn ymwneud 芒 dewis a rhoi opsiynau unigol am sut y dymunant fynd ymlaen yn y gwaith. Mewn rhai achosion, bydd unigolyn eisiau parhau i weithio cyhyd ag y gall, oherwydd sicrwydd ariannol neu am bod gwaith yn gallu tynnu eu sylw oddi ar eu salwch. Mewn achosion eraill, gall unigolyn benderfynu nad yw鈥檔 dymuno gweithio mwyach ac y byddai鈥檔 well ganddynt dreulio yr amser sy鈥檔 weddill iddynt gyda pherthnasau a ffrindiau, cael eu pethau mewn trefn neu ddim ond gwneud yr hyn maent eisiau. Beth bynnag mae person yn ei ddewis, dylent ddisgwyl help a chefnogaeth gan eu cyflogwr.
Drwy lofnodi鈥檙 Siarter, cytunodd y Cyngor i:
- Adolygu t芒l salwch a gweithdrefnau absenoldeb salwch a chynnwys datganiad penodol na fyddwn yn diswyddo unrhyw berson gyda diagnosis angheuol oherwydd eu cyflwr.
- Sicrhau fod gan y Rhaglen Cymorth i Weithwyr y capasiti a鈥檙 galluedd i roi cefnogaeth i unrhyw berson gyda salwch angheuol, yn cynnwys mynediad i gwnsela a chyngor ariannol.
- Rhoi hyfforddiant i reolwyr llinell a holl staff Datblygu Sefydliadol ar ddelio gyda salwch angheuol, yn cynnwys sut i drafod cynlluniau鈥檙 dyfodol gydag unrhyw weithiwr sydd 芒 diagnosis o salwch angheuol, a pha addasiadau y gall fod eu hangen i drefniadau gwaith.
- Mabwysiadu Siarter Marw i Weithio a hysbysu ein holl weithwyr ein bod wedi gwneud yr ymrwymiadau a gynhwysir ynddo.
Dywedodd Damien McCann, Prif Weithredwr Interim Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒:
鈥淩ydym yn cefnogi Ymgyrch Marw i Weithio y TUC a drwy lofnodi鈥檙 Siarter Marw i Weithio dangoswn ein hymrwymiad i gefnogi cydweithwyr pe byddent yn derbyn diagnosis o salwch angheuol. Mae diagnosis angheuol yn drychinebus ac mae鈥檔 gyfnod o straen emosiynol enfawr, ofn ac ansicrwydd. Mae iechyd a llesiant ein staff yn flaenoriaeth a phan fo salwch difrifol neu angheuol yn wynebu gweithwyr mae鈥檔 bwysig y gallant ddewis y llwybr sy鈥檔 gywir iddyn nhw a鈥檜 teuluoedd, heb ofid ychwanegol ansicrwydd ariannol.鈥
听