Mae Cyngor 天美传媒 wedi bod yn rhoi sylw i amrywiaeth o dechnoleg gynorthwyol a gynlluniwyd i helpu pobl h欧n i fyw'n ddiogel yn hirach yn eu cartrefi eu hunain.
Bu'r Cyngor yn gweithio gyda Worcestershire Telecare, Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin, Cymdeithas Tai United Welsh a Linc Cymru i ddarparu ac arddangos yr offer newydd.
Cafodd y technolegau newydd eu dangos yr wythnos hon yn y fflatiau Cariad mewn dau gynllun tai gofal ychwanegol yn Nantyglo a Glynebwy. Mae fflatiau Cariad yn rhan o gynllun gofal canolradd sy'n cynnig llety dros dro 芒 chymorth ar gyfer pobl h欧n i'w helpu rhag naill ai orfod mynd i'r ysbyty neu hefyd i'w helpu i gael eu rhyddhau o ysbyty'n gyflymach. Yn fflatiau gofal canolradd Cariad caiff pobl eu hasesu i ganfod pa gymorth maent ei angen i'w galluogi i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Gallai hyn gynnwys cymhorthion ac addasiadau, rhaglen ail-alluogi neu ofal gan asiantaeth gofal yn y cartref.
Cafodd y Cyngor gefnogaeth yn ddiweddar gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid grant newydd o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datrysiadau technoleg gynorthwyol ddigidol a symudol i gefnogi atal pobl rhag syrthio a helpu i drin y risgiau sy'n gysylltiedig gyda dementia a mathau eraill o nam gwybyddol. Mae enghreifftiau o'r datrysiadau hyn yn cynnwys synwyryddion codymau, offer i gau ffenestri'n awtomatig, agorwyr llenni a drysau, intercom, dyfeisiau rheoli seiliedig ar is-goch, offer monitro gweithgaredd/anweithgaredd ac ystod lawn o synwyryddion teleofal yn cynnwys mwg, synwyryddion carbon monocsid ac unedau canfod llifogydd. Mae'r cyfan yn rhan o barsel cymorth sy'n helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag mae'n ddiogel gwneud hynny.
Gwahoddwyd swyddogion iechyd a gofal cymdeithasol i'r fflatiau deallus hyn i weld y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a chanfod sut mae'n gweithio. Bydd preswylwyr a'u teuluoedd yn cael eu gwahodd yn y dyfodol agos i ganfod mwy am yr offer a sut y gall ddiwallu eu hanghenion i fyw'n annibynnol.
Dywedodd Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Mae gan y Cyngor ymrwymiad hirdymor drwy ei Strategaeth Byw'n Annibynnol i alluogi pobl h欧n i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy'n bosibl lle teimlant yn gysurus ac yn rhan o'r gymuned. Mae'n gyffrous iawn gweld a rhoi cynnig ar y technolegau newydd hyn fydd yn parhau i'w helpu i wneud hynny'n ddiogel a rhoi tawelwch meddwl i'w teuluoedd. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein gwaith da yma ym Mlaenau Gwent ac wedi dyfarnu cyllid fel y gallwn adeiladu hyn ar gyfer teuluoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol."
Dywedodd Rupert Lawrence, Pennaeth Worcestershire Telecare:
"Rydym yn falch iawn i weithio gyda Chyngor 天美传媒 ar y cynllun cyffrous hwn i roi sylw i fanteision technoleg ddeallus a thechnoleg gynorthwyol. Bydd ein dull cydweithredu yn cynnwys gwerthusiad allweddol o ganlyniadau ar hyd y prosiect ac yn dangos sut y gall ymagwedd fodern at ofal a alluogir gan dechnoleg (TEC) wella bywydau pobl, helpu i hwyluso trefniadau gofal gwell yn dilyn rhyddhau o ysbyty a sut y gall defnyddio TEC mewn modd rhagweithiol a mwy effeithlon gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ac sydd mewn risg o syrthio. Mae defnyddio technoleg fel rhan o strategaethau blaengar ar gyfer annibyniaeth yn hanfodol i oresgyn yr heriau sy'n wynebu Iechyd a Gofal Cymdeithasol."