天美传媒

Storm Bert: Cefnogi Ein Cymunedau gyda'ch Haelioni

Fel y mae llawer ohonoch yn ei wybod, mae Storm Bert wedi achosi difrod a chaledi sylweddol mewn sawl ardal ym Mlaenau Gwent, gan adael trigolion mewn argyfwng. Er bod y storm wedi dod 芒 dinistr, mae ymateb calonogol pobl 天美传媒 wedi bod yn rhyfeddol. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i gynnig cymorth ymarferol yn ogystal 芒 chefnogaeth ariannol hael i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf.

Er mwyn sicrhau bod yr holl arian a roddir yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) wedi cytuno'n garedig i dderbyn a phrosesu pob rhodd. Mewn partneriaeth 芒 sefydliadau lleol allweddol eraill, bydd GAVO yn dosbarthu "taliadau caledi" bach trwy broses ymgeisio, yr ydym yn gobeithio ei lansio yn y dyddiau nesaf.

Sylwch nad yw GAVO yn gallu derbyn rhoddion arian parod. Felly, rhaid gwneud pob cyfraniad trwy drosglwyddiad banc, gan gynnwys trosglwyddo unrhyw gyfraniadau GO-FUND ME.

Sut i Roi:

Os ydych chi鈥檔 gallu ac yn barod i gefnogi, cysylltwch 芒 Laura O'Dowd am fwy o wybodaeth am sut i wneud eich rhodd.

Manylion cyswllt: laura.odowd@gavo.org.uk

贵蹿么苍: 07483 128053

Info@gavo.org.uk

Mae eich haelioni a'ch caredigrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch am wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf.