天美传媒

Sgam Taliad £150 Cymorth Costau Byw

Mae Swyddogion Safonau Masnach ym Mlaenau Gwent yn rhybuddio鈥檙 cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag sgam ff么n yn ymwneud 芒鈥檙 taliad cymorth costau byw.

Mae鈥檙 sgamwyr yn hawlio bod yn gysylltiedig gyda鈥檙 cyngor ac yn esbonio fod ad-daliad yn ddyledus. Maent wedyn yn gofyn am eich manylion banc er mwyn gwneud y taliad o 拢150. Mae pobl sydd wedi dioddef o鈥檙 sgam yn dweud y tynnwyd symiau mawr o arian o鈥檜 cyfrifon yn dilyn y galwad. Mae鈥檙 sgam hefyd wedi ei anfon drwy e-bost ac fel neges testun.

NI fyddwn yn ffonio/anfon neges testun/anfon e-bost yn gofyn am eich manylion banc ynghylch y taliad hwn. Os ydych yn talu eich Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol ni fydd angen i chi wneud dim a byddwch yn derbyn taliad yn awtomatig i鈥檆h cyfrif banc dros yr wythnos nesaf.

Os talwch eich Treth Gyngor drwy unrhyw ddull arall, anfonir llythyr gyda chod unigryw atoch yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y taliad. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru fer ar-lein i鈥檔 galluogi i wneud taliad i鈥檆h cyfrif banc. Ni fedrwch lenwi鈥檙 ffurflen gofrestru nes byddwch wedi derbyn eich llythyr. Byddwn yn dechrau anfon llythyrau dros yr wythnos nesaf a byddwn yn eich hysbysu am y sefyllfa ddiweddaraf drwy ein sianeli swyddogol. Gofynnir i chi gadw eich hysbysiad Treth Gyngor yn ddiogel gan y byddwch ei angen i gofrestru.