天美传媒

Rhaglen Cymorth Gweithwyr

Bydd Rhaglen Cymorth i Weithwyr a ariannir gan Llywodraeth Cymru ar gael o 4 Rhagfyr, yn cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant i鈥檙 rhai a gyflogir yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y sector preifat a鈥檙 sector gwirfoddol yng Nghymru, yn cynnwys cynorthwywyr personol. (Byddem yn annog y gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd mewn cyflogaeth sydd eisoes 芒 mynediad i Raglenni presennol o鈥檙 fath i barhau i鈥檞 defnyddio).

Caiff y Rhaglen Cymorth i Weithwyr ei chynnig gan Care First sy鈥檔 cyflogi cwnselwyr gyda chymwysterau proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth. Maent yn brofiadol mewn helpu i ddelio gyda phob math o faterion ymarferol a chyflogaeth yn gysylltiedig 芒 llesiant, materion teuluol, perthynas, rheoli dyledion, y gweithle a llawer mwy.

I helpu pobl i ddeall y gwasanaethau a gynigir yn well, bydd gweminar ar 2 Rhagfyr 2020 am 3.30pm (am awr yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau). Mae鈥檙 weminar ar agor i bawb a gyflogir mewn gofal cymdeithasol yn y sector preifat a鈥檙 sector gwirfoddol yng Nghymru. Y ddolen i archebu lle ar y weminar yw
https://attendee.gotowebinar.com/register/2484630607866568462

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu鈥檙 wybodaeth hon gyda phawb sy鈥檔 derbyn taliadau uniongyrchol, eu cynorthwywyr personol ac unrhyw sefydliad a gomisiynwyd i gydlynu neu gefnogi gwasanaethau talu uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at
EAPqueries@socialcare.wales os gwelwch yn dda.