天美传媒

Pwyllgor Gweithredol y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Canolfan Uwch Beirianneg

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor 天美传媒 heddiw (14 Ebrill 2021) wedi cymeradwyo adroddiad y Ganolfan Uwch Beirianneg sy鈥檔 cymeradwyo cais am gyllid i Lywodraeth Cymru.

Mae鈥檙 adroddiad yn cynnig sefydlu canolfan beirianneg flaenllaw a fyddai鈥檔 cefnogi cannoedd o ddysgwyr yng Nglynebwy.

Mae鈥檙 cynlluniau鈥檔 cynnwys ailwampio hen ffatri Monwell yn Heol Letchworth, Glynebwy i greu Canolfan Uwch Beirianneg.

Byddai鈥檙 cyfleuster o鈥檙 math diweddaraf yn Ganolfan Rhagoriaeth flaenllaw, a allai gyflwyno cwricwlwm newydd addas ar gyfer diwydiant peirianneg y dyfodol.

Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio gyda Choleg Gwent. Disgwylir i tua 600 o ddysgwyr fynychu鈥檙 ganolfan erbyn 2026/27 ar amrywiaeth o gyrsiau llawn-amser, rhan-amser, addysg uwch a phrentisiaeth.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Adfywio:

鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn yn dod 芒 Cymoedd Technoleg, Coleg Gwent a nifer o bartneriaid ynghyd i ddatblygu鈥檙 weledigaeth o ganolfan fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd. Bydd yn creu amgylchedd fydd yn denu mewnfuddsoddwyr uwch-dechnoleg o fewn y sector uwch weithgynhyrchu.

鈥淏ydd y Ganolfan Uwch Beirianneg yn addasu鈥檔 barhaus i gynhyrchu myfyrwyr gelfydd gydag angerdd go iawn am beirianneg a chynyddu sgiliau鈥檙 gweithlu peirianneg presennol, yn barod ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf. Bydd y bartneriaeth gyda rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu鈥檔 Uchel yn sicrhau fod diwydiant lleol yn medru cael pobl ifanc fedrus ar gyfer swyddi鈥檙 dyfodol.鈥

Cefnogir y cynllun gan fwrdd Cymoedd Technoleg. Os cymeradwyir y cais am gyllid, disgwylir y bydd y cyfleuster yn agor ym mis Medi 2022. Bydd y ganolfan yn cefnogi gweledigaeth Cymoedd Technoleg ar gyfer Cymoedd De Cymru a 天美传媒 i gael eu cydnabod fel canolfan fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd erbyn 2027.