Y Diwrnod Gofalu hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru 天美传媒 yn ymuno 芒 chymuned Maethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau鈥檙 broses o ddileu elw o鈥檙 system gofal plant.
Cymru yw鈥檙 wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd 芒 phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi鈥檔 cefnogi pobl ifanc mewn gofal i aros yn gysylltiedig 芒鈥檜 hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a鈥檜 hysgol.
Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc 芒 gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*
Dechreuodd y gofalwyr maeth, Bev a Mel, o Flaenau Gwent, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2018. Fe wnaethant benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru 天美传媒 yn 2024 鈥 a ddisgrifiwyd ganddynt fel 鈥渃am cadarnhaol gwirioneddol鈥.
Esboniodd Mel: 鈥淵n flaenorol, gydag asiantaeth annibynnol fe gymerodd amser hir i ddod o hyd i berson ifanc a oedd yn addas i ni.
Ond y llynedd fe ddechreuon ni faethu gyda鈥檔 hawdurdod lleol ac o fewn wythnosau cawsom ein cyflwyno i berson ifanc o鈥檙 ardal leol yr oedd ein gweithiwr cymdeithasol yn meddwl y byddai鈥檔 cyd-fynd yn dda 芒鈥檔 profiad.鈥
Aethom ni yn bendant i mewn gyda syniad o sut beth fyddai maethu gydag awdurdod lleol, ond rydym mor falch o ddweud bod ein profiad wedi bod yn wych. Mae鈥檙 gefnogaeth yn wych ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned gyda gofalwyr maeth eraill.鈥
Dywed Bev: 鈥淩ydyn ni'n gofalu am dri o blant, ac maen nhw wrth eu bodd yma. Maen nhw'n mynd i'w hysgol leol, yn gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd genedigol. Mae鈥檙 cysylltiad hwnnw mor bwysig. Er efallai na fydd y plant hyn gyda ni am eu bywydau cyfan, fe fyddan nhw bob amser mewn lle sy鈥檔 teimlo fel cartref. A dyna hanfod maethu.鈥
Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Ar hyn o bryd mae 96 o blant mewn gofal maeth a 70 o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, ond mae angen mwy o ofalwyr bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: e-bost fostering@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Ymholiadau: 01495 369620