天美传媒

Plant Ysgol Lleol yn Creu Llyfrau gyda Neges Ddifrifol

Ysgrifennwyd 鈥楾he Colossal Cat鈥 gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Pantside, ac mae鈥檔 adrodd hanes Colin y Gath sydd, un diwrnod, yn sylweddoli bod angen iddo wneud newidiadau mawr i鈥檞 ddiet a鈥檌 ffordd o fyw os yw eisiau gallu teimlo鈥檔 hapus ac yn iach unwaith eto. Bydd y llyfr hwn yn helpu teuluoedd i drafod yn sensitif faterion a all achosi gordewdra a鈥檜 hysbrydoli i fyw bywyd iachach.

Gyda chynnydd mewn cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau ledled Gwent a cholled anochel ffrindiau h欧n, mae The Elephant in the Room, a ysgrifennwyd gyda disgyblion Ysgol Gynradd Georgetown, yn ystyried sut allwn orau helpu plant i ymdopi gyda鈥檜 teimlad o golled drwy gadw sianeli cyfathrebu yn agored a defnyddio iaith syml, blaen.

Bydd y llyfr hwn yn mynd gyda gwaith gwych menter Ffrind i mi/Friend of mine庐 sy鈥檔 ceisio trechu unigedd cymdeithasol ac unigrwydd ledled Gwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae鈥檙 ddau deitl yma yn dilyn Billy the Superhero, llyfr a ysgrifennwyd ac a ddatblygwyd gan blant ysgol lleol yn 2018 gyda鈥檙 nod o gyflwyno pwnc iechyd a gofal cymdeithasol i blant eraill yng Ngwent a thu hwnt ac annog plant i feddwl am yrfa yn y sector. Fel yn achos Billy the Superhero bydd y teitlau hyn yn cael eu rhannu gyda llyfrgelloedd, ysgolion a meddygfeydd ar draws Gwent a thu hwnt.

Mae鈥檙 prosiect hefyd wedi cefnogi disgyblion Blwyddyn Chwech yn y ddwy ysgol i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd ac adrodd straeon a chodi eu dyheadau.

Meddai Mr Morgans, athro dosbarth yn Ysgol Gynradd Georgetown:

鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn wedi bod yn brofiad anhygoel o werthfawr. Mae鈥檙 disgyblion wedi gallu trafod pwnc sensitif yn hyderus ac maent wedi dysgu llawer iawn am y proffesiwn ysgrifennu / cyhoeddi. Wrth wylio鈥檙 plant yn gweithio gydag awduron ac arlunwyr, rwyf wedi gweld brwdfrydedd gwirioneddol yn datblygu ymhlith y plant i ddilyn gyrfa o鈥檙 fath. Nid oes amheuaeth bod y disgyblion wedi eu hysbrydoli gan y t卯m yn Petra, sy鈥檔 sicr wedi codi dyheadau!鈥

Bydd y ddau lyfr yn cael eu lansio鈥檔 swyddogol ar 19eg Rhagfyr yn Sefydliad y Glowyr Llanhilleth yn Abertyleri a byddant ar gael i鈥檞 harchebu gan Petra Publishing gyda鈥檙 holl arian a godir yn mynd tuag at deitlau eraill yn y dyfodol. https://www.petrapublishing.org

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Ffrind i Mi, ewch i鈥檙 wefan: www.ffrindimi.co.uk