天美传媒

Meithrinfa Acorns yn dathlu adroddiad arolygu


Mae鈥檔 bleser gan y Cyngor longyfarch Meithrinfa Acorns yn Rasa am yr adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolygiad ym mis Tachwedd 2024 gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn. Derbyniodd y feithrinfa farnau da ar draws yr holl feysydd, gan adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ei staff a鈥檌 harweinyddiaeth.

Amlygodd yr adroddiad arolygu nifer o gryfderau allweddol Meithrinfa Acorns.

  • Mae gan bron bob plentyn ym Meithrinfa Acorns lais cryf, gan wneud dewisiadau a phenderfyniadau am eu gweithgareddau yn hyderus.
  • Mae ymarferwyr y feithrinfa yn garedig, gofalgar a meithringar, gan greu awyrgylch cadarnhaol, hapus a deniadol. Maent yn darparu amgylchedd dysgu croesawgar sy'n ysbrydoli chwilfrydedd ac ymgysylltiad plant.
  • Mae'r adnoddau a'r gosodiad yn hybu annibyniaeth y plant a chwarae pwrpasol. Mae'r ddarpariaeth dysgu awyr agored yn arbennig o gryf, gan gefnogi datblygiad cyfannol y plant.

Nododd yr adroddiad fod y t卯m arwain ym Meithrinfa Acorns yn dangos gweledigaeth glir ac angerdd dros ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Maent wedi datblygu ethos t卯m cryf, gyda'r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

Mynegodd Melanie Madden a Leanna Hodgkins, y personau cofrestredig a'r personau 芒 gofal, eu balchder yng nghyflawniadau'r feithrinfa, gan ddweud:

"Rydym wrth ein bodd gyda'r adborth cadarnhaol gan Estyn ac AGC. Mae'r adroddiad hwn oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein t卯m cyfan. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu amgylcheddau anogol ac ysgogol i'n holl blant."

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Trollope 鈥 Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol 鈥搚 t卯m yn Acorns, gan ddweud:

鈥淩ydw i wrth fy modd ar ran y t卯m - maen nhw wedi gweithio mor galed i gofleidio鈥檙 cwricwlwm a dilyn diddordebau鈥檙 plant, ac mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.鈥

鈥淔el rhan o flaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol, ein nod yw gwneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb er mwyn creu 天美传媒 lewyrchus, ffyniannus a mwy cydnerth, gan ddarparu cyfleoedd addysgol a sgiliau o ansawdd uchel i bawb, ac mae Acorns wedi arddangos hyn yn berffaith gyda鈥檙 adroddiad arolygu hwn.鈥

Mae Meithrinfa Acorns yn lleoliad meithrin a ariennir, nas cynhelir ac mae鈥檔 cynnig addysg gynnar, Dechrau鈥檔 Deg, a chynnig gofal plant. Edrychant ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i ddarparu gofal ac addysg i blant Glynebwy. Darllenwch yr adroddiad llawn yma: