天美传媒

Mae help ar gael i aelwydydd cymwys yr effeithiodd llifogydd mewnol arnynt yn ystod stormydd Chwefror

Llythyr at aelwydydd a ddioddefodd effeithiau鈥檙 llifogydd yn ystod stormydd mis Chwefror Mae鈥檙 pandemig Covid19 yn cael effaith aruthrol ar fywydau pob un ohonom. Y peth pwysicaf un y gallwn ei wneud i ymladd y coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.

Fodd bynnag, rwy鈥檔 sylweddoli y bydd dygymod ag effeithiau Covid-19 hyd yn oed yn fwy anodd i鈥檙 aelwydydd hynny a ddioddefodd effeithiau鈥檙 llifogydd ym mis Chwefror. Gwn ei bod yn bosibl bod rhai aelwydydd yn byw mewn llety dros dro, a bod eraill wedi aros mewn eiddo a ddifrodwyd.

Mae鈥檔 bosibl y bydd angen rhagor o gymorth ar rai aelwydydd i hunanynysu ac i gadw at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. Mae fy nghydweithwraig, Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi trefnu bod 拢10 miliwn ar gael i鈥檙 awdurdodau lleol ac wedi ysgrifennu at aelwydydd penodol a ddioddefodd effeithiau鈥檙 llifogydd i gynnig rhagor o gyngor a thynnu sylw at y cymorth sydd gael.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod pecyn ychwanegol, gwerth 拢10 miliwn, ar gael i bob aelwyd a ddioddefodd effeithiau llifogydd yn eu prif gartref o ganlyniad i鈥檙 stormydd ym mis Chwefror. Gyda chymorth yr awdurdodau lleol, rydym wedi cynnal asesiad o anghenion y bobl hynny a ddioddefodd effeithiau鈥檙 llifogydd ym mis Chwefror o ran yr effaith y mae鈥檙 pandemig Covid-19 yn ei chael arnynt. Rydym wedi estyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gymorth drwy鈥檙 Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy鈥檔 gymwys i gael cymorth yn gallu gwneud cais amdano.

Gellir hefyd ddefnyddio鈥檙 拢10 miliwn o gymorth ychwanegol ar gyfer digartrefedd i helpu鈥檙 bobl hynny sydd wedi dioddef llifogydd os yw eu sefyllfa o ran tai yn eu hatal rhag cadw at ganllawiau鈥檙 Llywodraeth ar warchod eu hunain rhag y feirws. Rydym yn gweithredu i wneud yn si诺r bod cymorth a chefnogaeth ar gael pan fo鈥檌 angen arnoch. Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn amddiffyn cymunedau rhag llifogydd. Trefnwyd bod cyllid ychwanegol ar gael i bob cyngor ac i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer amddiffynfeydd newydd rhag


llifogydd ac er mwyn atgyweirio amddiffynfeydd o鈥檙 fath a ddifrodwyd yn ystod stormydd mis Chwefror.

Mae gwaith fy adran ar reoli perygl llifogydd yn elfen graidd o鈥檔 hymateb i鈥檙 newid yn yr hinsawdd ac rwy鈥檔 parhau鈥檔 ymrwymedig i sicrhau鈥檙 holl gyllid sydd ei angen i barhau 芒鈥檙 gwaith hwn. Ar 么l llifogydd mis Chwefror, rwyf wedi trefnu bod mwy o gyllid refeniw ar gael i鈥檙 awdurdodau lleol i鈥檞 helpu i reoli perygl llifogydd. Ochr yn ochr 芒鈥檙 cyllid uwch ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, rwyf wedi cynyddu cyllidebau Cyfoeth Naturiol Cymru a鈥檙 awdurdodau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a pherygl llifogydd ar yr arfordir.

Bydd awdurdodau lleol yn gweld cynnydd o 50% yn y gyllideb ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd. Yn ogystal 芒 hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi鈥檙 cyllid llawn i鈥檙 awdurdodau lleol wneud y gwaith sydd ei angen i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd a ddifrodwyd ym mis Chwefror, gan ddarparu 拢2.8 miliwn hyd yma.

Er bod effaith y pandemig yn golygu ei bod yn anos gwneud y gwaith hwn, rydym yn benderfynol y dylai barhau er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau. Ar 么l y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror, comisiynais adolygiad brys o ddiogelwch tomenni gwastraff.

Sefydlwyd tasglu newydd, y Tasglu Polisi ar Ddiogelwch Tomenni Glo, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio鈥檔 ddiflino i fwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith hwn ar gynnal safonau ac amddiffyn ein cymunedau. Cafodd llinell gymorth rhadff么n newydd ei chyflwyno ar 0800 021 9230 er mwyn i unrhyw aelod o鈥檙 cyhoedd fedru rhoi gwybod am bryderon yn y dyfodol. Rwy鈥檔 meddwl amdanoch ar yr adeg anodd hon.


Lesley Griffiths AC/AM
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Minister for Environment, Energy and Rural Affairs