天美传媒

Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r cynllun am addysg Gymraeg

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor yn awr ar gael I鈥檞 weld ar y wefan 鈥 /en/council/policies-plans-strategies/

Prif amcanion y cynllun yw codi proffil addysg Gymraeg a鈥檙 nifer sy鈥檔 dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal erbyn 2020 drwy gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar ar gyfer y Gymraeg; gwella cyfraddau trosglwyddo o鈥檙 blynyddoedd cynnar I ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd a gwella deilliannau dysgwyr ymhellach drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhai o鈥檙 amcanion ar y ffordd i gael eu cyflawni dgydag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y fwrdeistref, Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nantyglo, yn parhau i wneud gwelliannau a gweld deilliannau gwell ar gyfer disgyblion. Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru I sicrhau fod deilliannau hefyd yn dda yn y ddarpariaeth uwchradd, Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pwl a gaiff ei mynychu gan ddysgwyr 天美传媒,

Mae lleoiliadau meithrin llawn-amser yn awr ar gael ym Mro Helyg ac mae鈥檙 Cyngor hefyd yn ystyried datblygu ysgol egin yn ardal cwm Tredegar drwy ail don cyllid Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Councillor Clive Meredith, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Addysg:

鈥淩ydym wedi bod ag ymroddiad ers amser maith I annog a datblygu鈥檙 Gymraeg o fewn y gweithle a hefyd yn ein cymunedau. Mae鈥檔 bwysig sylweddoli y gall plant o gartrefi di-Gymraeg ddatblygu sgiliau dwyieithog gwirioneddol drwy fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae hyn yn sgil fydd yn ddefnyddiol iawn iddynt yn y  dyfodol.

鈥淩ydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Cynllun I ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yma ym Mlaenau Gwent a nawr byddwn yn mynd ati gyda鈥檙 gwaith o gyflawni ein hamcanion a chyfrannu tuag at nod y wlad o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.鈥