Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella addysg plant ym Mlaenau Gwent?
Allwch chi ymrwymo i fynychu cyfarfodydd rheolaidd a dilyn hyfforddiant?
Yna rydym eich angen fel llywodraethwr ysgol Awdurdod Lleol.
Rydym yn edrych am bobl sydd â'r sgiliau i'n helpu yn ein taith o wella safonau addysg ym Mlaenau Gwent. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o addysg, mae croeso neilltuol i ymgeiswyr gyda phrofiad mewn busnes, adnoddau dynol, cyllid a dadansoddi data. Darperir ystod gynhwysfawr o hyfforddiant a chefnogaeth. Mae'n gyfle cyffrous i chi:
• ennill sgiliau newydd;
• cymryd rhan mewn gwaith tîm;
• cyfrannu at y gymuned;
• gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Mae gennym leoedd gwag yn yr ysgolion dilynol:
Enw'r Ysgol | Lleoedd Gwag |
---|---|
Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort | 1 |
Ysgol Gynradd Blaenycwm | 1 |
Ysgol Gynradd Coedygarn | 1 |
Ysgol Gynrdd Deighton | 2 |
Ysgol Gynradd Georgetown | 1 |
Ysgol Gynradd Rhosyfedwen | 2 |
Ysgol Gynradd Sofrydd | 1 |
Ysgol Gymraeg Brohelyg | 1 |
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr | 1 |
Ysgol Arbennig Penycwm | 1 |
I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â:
Julie Parry yn Cefnogaeth Llywodraethwyr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG. Ffôn: 01443-863242 neu E-bost: Julie.parry@sewaleseas.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau yw dydd Gwener 16 Mehefin 2017 am ganol-dydd.