ÌìÃÀ´«Ã½

Lansio ymgyrch i ddangos manteision band eang cyflym iawn yn

Mae ymgyrch newydd sy’n dangos sut mae band eang cyflym iawn yn newid bywydau pobl wedi cael ei lansio yn Sir ÌìÃÀ´«Ã½.

Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo band eang cyflym iawn i drigolion ÌìÃÀ´«Ã½ er mwyn dangos ei fanteision ac annog mwy a mwy o drigolion y sir i’w ddefnyddio.

Gyda’r rhan fwyaf o bobl Sir ÌìÃÀ´«Ã½â€™n gallu cael gafael ar y gwasanaeth erbyn hyn, bydd yr ymgyrch yn dangos sut mae band eang cyflym iawn yn gweddnewid y ffordd mae pobl yn gweithio, yn dysgu ac yn cysylltu â’u teuluoedd a ffrindiau.

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi sawl dyfais i weithio yr un pryd, gan ganiatáu pobl i ffrydio ffilmiau, lawrlwytho cerddoriaeth, astudio neu sgwrsio gyda’u hanwyliaid heb darfu ar y cysylltiad.

Bydd yr ymgyrch yn pwysleisio sut mae’r gwasanaeth yn trawsnewid y modd mae pobl yn byw ac yn gweithio o Fôn i Fynwy.

Er bod y rhan fwyaf o’r sir yn gallu cyrchu band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dymuno, dyw canran fach o safleoedd ddim yn gallu gwneud hynny. Mae cymorth ar gael iddyn nhw ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio tîm band eang Llywodraeth Cymru*.

Meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: “Mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i gartrefi, felly dyna pam rydyn ni’n ymrwymo i gyflwyno cysylltiad rhyngrwyd cyflymach ym mhob cwr o’r wlad. Mae gwella’n seilwaith digidol yn allweddol i lywio twf economaidd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a helpu pobl i gyfathrebu.

“Er bod y rhan fwyaf o gartrefi ÌìÃÀ´«Ã½ yn gallu derbyn gwasanaeth band eang cyflym iawn, dyw llawer ddim yn ymwybodol o’r manteision na sut i elwa ar hynny. Mae cysylltiadau band eang cyflymach yn galluogi teuluoedd ac unigolion i wneud eu gweithgareddau’n gynt ac yn fwy effeithlon nag erioed o’r blaen, ac ar sawl dyfais hefyd. Mae hyn yn cynnwys lawrlwytho adnoddau dysgu mawr i’w plant, rheoli cyfrifon banc, siopa ar y we, talu biliau’r aelwyd neu ddefnyddio gwasanaethau fideo fel Skype – i enwi dim ond rhai.

“I weithwyr cartref, mae’r gwasanaeth yn golygu eu bod yn fwy effeithlon, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyflawni i’r eithaf. Mae gallu cyfathrebu trwy gyfrwng system fideo-gynadledda HD neu Skype yn helpu cwmnïau i siarad â’u staff, cwsmeriaid a chyflenwyr unrhyw le yn y byd.

“Hefyd, mae band eang cyflym iawn yn eich cysylltu â gwasanaeth cyfrifiadura cwmwl fel cronfeydd data wrth gefn ar unwaith, sy’n golygu bod diogelwch ac uwchraddio’n haws nag erioed i ddefnyddwyr. 

“Rydym am weld cymaint ag sy’n bosib o bobl yn gwireddu’r manteision hyn, a nod yr ymgyrch hon yw dangos sut mae’r dechnoleg yn effeithio ar filoedd o fywydau mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Mae’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn parhau ledled Cymru, ac er bod y rhan fwyaf o safleoedd yn gallu’i dderbyn erbyn hyn, rwy’n gwybod am rai sy’n dal i ddisgwyl amdano neu’n ansicr a yw ar gael iddyn nhw. Mae cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw hefyd.  

Dylai cartrefi a busnesau ÌìÃÀ´«Ã½ sy’n dymuno elwa ar fand eang ffeibr cyflym iawn gysylltu â’r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) o’u dewis i’w archebu.

*Ewch i www.llyw.cymru/bandeang i weld pa wasanaeth band eang sydd ar gael.

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rai nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym iawn eto, oherwydd efallai bod cymorth ar gael dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n darparu arian grant i fanteisio ar gysylltiad band eang cyflym iawn trwy ddulliau eraill.