Dyddiadau allweddol i bleidleiswyr:
- Mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio erbyn 26 Tachwedd 2019
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais post yw 26 Tachwedd 2019
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais ddirprwy yw 4 Rhagfyr
Os rhagwelwch unrhyw anawsterau yn mynychu'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad am unrhyw reswm, yn cynnwys y posibilrwydd o dywydd garw, gallech wneud cais am bleidlais post neu bleidlais ddirprwy, ond mae'r amserlen yn dyn felly dylech anfon eich ceisiadau i mewn cyn gynted ag sy'n bosibl.
Ar Ddiwrnod yr Etholiad
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm, felly cynlluniwch nawr pryd y byddwch yn bwrw eich pleidlais. Bydd gwybodaeth ar sut i farcio eich papur pleidleisio ar gael yn yr orsaf bleidleisio.
Dyma restr o'r hyn y dylech ei wybod cyn y diwrnod pleidleisio:
Gwneud yn si诺r eich bod yn pleidleisio ar amser
- Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 12 Rhagfyr. Mae'n rhaid i chi wneud cais i gofrestru i bleidleisio erbyn canol nos ar 26 Tachedd er mwyn medru pleidleisio ar 12 Rhagfyr .
- Bydd eich cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon i'r cyfeiriad lle'r ydych wedi cofrestru. Bydd yn dweud ble mae eich gorsaf bleidleisio. Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio y medrwch fwrw eich pleidlais.
- Meddwl am pryd y gallwch fwrw eich pleidlais yn yr orsaf bleidleisio, gan adael digon o amser cyn y dyddiad cau o 10pm.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: /en/resident/voting-elections/parliamentary-election-thursday-12-december-2019/