天美传媒

Gweinidog Addysg yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg

Bu Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg heddiw i weld y gwaith ailfodelu a ariannwyd gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Defnyddiodd yr ysgol yn y Blaenau, 天美传媒, gyllid o raglen Llywodraeth Cymru i ailfodelu鈥檙 adeilad, gan greu gofodau mewnol ac allanol i wella鈥檙 amgylchedd addysgu a dysgu. Yn fewnol, mae鈥檙 ysgol wedi ailwampio eu hystafelloedd newid i fod yn ofodau Synhwyraidd a Maethu, ynghyd ag ystafell STEM a Llyfrgell ac Ystafelloedd Cyfryngau i gefnogi datblygiad disgyblion.

Cafodd y gofodau tu allan eu trawsnewid yn ardaloedd addysgu gyda chanop茂au, ardaloedd tarmac i blant chwarae gemau a chreu ardaloedd ysgol goedwig.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn ail flwyddyn Grant Trochi a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cefnogi disgyblion sy鈥檔 pontio o ysgol cyfrwng Saesneg i ysgol Gymraeg. Nid yw hi byth yn rhy hwyr 聽ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn, ac mae llawer o gefnogaeth ar gael i blant a rhieni sy鈥檔 gwneud y newid.

Cafodd Jeremy Miles AS ei gyfarch gan Ann Toghill, Pennaeth yr ysgol, cyn mynd ar daith o鈥檙 ysgol i gael teimlad o sut mae鈥檙 cyllid wedi trawsnewid y profiad dysgu ar gyfer y plant. Cafodd hefyd gyfle i wrando ar g么r y disgyblion. Mwynhaodd Mr Miles daith o鈥檙 ysgol a bu鈥檔 tostio malws melys yn yr ardal dysgu awyr agored newydd.

Roedd y Cyng Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor 天美传媒; y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Addysg ; Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Addysg Interim a Laura-Beth Flower, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol hefyd yno i gwrdd gyda鈥檙 Gweinidog a mwynhau taith o鈥檙 ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

鈥淢ae adeiladau wedi鈥檜 dylunio yn dda ac amgylchedd dymunol mor bwysig i gefnogi dysgwyr a staff, gan gyflawni safonau uchel ac uchelgais i bawb.

"Rwyf eisiau i鈥檔 hysgolion fod yn lleoedd ysbrydoledig i ddysgu ac addysgu, i鈥檔 disgyblion i ffynnu ac mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn dangos sut y gellir gwneud hyn.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

鈥淩oedd yn wych cwrdd gyda鈥檙 Gweinidog, Jeremy Miles AS heddiw, ac ymuno ag ef ar daith o鈥檙 ysgol a鈥檙 ardaloedd dysgu newydd gwych.

鈥淢ae鈥檔 amser mor gyffrous ar gyfer addysg Gymraeg yma ym Mlaenau Gwent, ac roedd yn wych dangos hynny i鈥檙 Gweinidog heddiw. Rydym yn hollol ymroddedig i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf y Gymraeg a darparu mwy o gyfleoedd ac opsiynau ar gyfer dysgu Cymraeg. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynnig i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a fyddai, os caiff ei gymeradwyo, yn gweld canolfan adnoddau ADY gyda 15 lle yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg o fis Medi y flwyddyn nesaf.

鈥淢ae hefyd ysgol egin Gymraeg mewn adeilad newydd yn dod i Dredegar, fydd yn cael ei lleoli dros dro yn Nh欧 Bedwellte ar gyfer disgyblion Meithrin a Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2023. Mae hon yn ysgol egin sy鈥檔 rhannu trefniadau llywodraethiant gydag Ysgol Gymraeg Bro Helyg a bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei defnyddio o dymor yr Hydref 2024.鈥