ÌìÃÀ´«Ã½

Gwasanaethau'r Cyngor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Cyswllt y Cyngor) yn cau am 12pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr ac yn ail-agor am 8am ddydd Mawrth, 3 Ionawr.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth argyfwng allan-o-oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau allan-i-oriau am larymau Piper Lifeline at 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau rhwng 12pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr a 9am ddydd Mawrth 3 Ionawr. Gallwch gysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32

Gwasanaeth Cofrestru ÌìÃÀ´«Ã½

Amserau agor y Nadolig ar gyfer y Swyddfa Gofrestru yn NhÅ· Bedwellte, Tredegar yw:

23 Rhagfyr – 9am i 12.30pm

24-28 Rhagfyr - AR GAU

29 a 30 Rhagfyr  â€“ 10am – 2pm AR AGOR AR GYFER COFRESTRU MARWOLAETHAU YN UNIG

31 Rhagfyr - 2 Ionawr - AR GAU

Ar agor fel arfer o 9.30am 3 Ionawr

Mae'r oriau agor arferol ar gael ar y ddolen yma: http://www.blaenau-gwent.gov.uk/preswylwyr/genedigaethau-marwolaethau-priodasau/amserau-agor-a-manylion-cyswllt/?L=1

Desg Arian a Thaliadau

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid budd-daliadau ar agor hyd 12.30pm ar 23 Rhagfyr ac yn ail-agor am 8.30am ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017.

Bydd y ddesg arian ar agor hyd 12.00 canol-dydd ar 23 Rhagfyr ac yn ailagor am 8.30am ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017.

Ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiau hyn, mae'r llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy wefan ÌìÃÀ´«Ã½.

Bydd Ffordd Gebl Glyn Ebwy

Bydd Ffordd Gebl Glyn Ebwy ar gau am hanner awr wedi deuddeg ar ddydd Gwener Rhagfyr 23 a bydd hi'n ail-agor am wyth o’r gloch ar ddydd Mawrth Ionawr 3, 2017.