天美传媒

Golwg ar Gymru wrth i’r Man Engine ail-godi

Bydd y pyped mecanyddol mwyaf erioed a adeiladwyd ym Mhrydain, sef y Man Engine rhyfeddol yn ymweld 芒 Chymru am y tro cyntaf flwyddyn nesaf.

Cyhoeddir heddiw (13 Hydref) y bydd y Man Engine, anferthol, sy鈥檔 debyg i l枚wr enfawr, yn ymweld ag wyth o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf de Cymru am wythnos o ddathliadau rhwng 08 鈥 12 Ebrill 2018.

Bydd y gamp beirianegol hynod yn ymweld 芒 Big Pit, Gwaith Haearn Blaenafon, Gwaith Dur Glyn Ebwy, Parc a Chastell Cyfarthfa, Parc Coffa Ynysangharad, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a Gwaith Copr Hafod Morfa fel rhan o鈥檌 thaith ar draws Cymru,  dan y teitl 鈥淢an Engine Cymru: dathlu diwydiant鈥.

Mae鈥檙 daith yng Nghymru yn ffrwyth cydweithrediad ymhlith y sector diwylliannol yng Nghymru, gyda Phrifysgol Abertawe <http://www.swansea.ac.uk/> yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw <file:///\\10.0.0.40\Equinox\HOUSE\Clients\Cadw\2017-18\Projects\Man%20Engine\PR\cadw.wales.gov.uk>), Amgueddfa Cymru-National Museum Wales <https://museum.wales/>, pum awdurdod lleol (Torfaen <https://www.torfaen.gov.uk/intro-splash.aspx>, 天美传媒 <http://www.blaenau-gwent.gov.uk/>, Merthyr <https://www.merthyr.gov.uk/> Tudful, Rhondda Cynon Taf <http://www.rctcbc.gov.uk/> ac Abertawe <http://www.swansea.gov.uk/residents>), Celf ar y Blaen <http://head4arts.org.uk/> a Golden Tree Productions <http://goldentree.org.uk/>.

Trefnodd y bartneriaeth gais llwyddiannus i groesawu鈥檙 pyped anferth i dde Cymru, a鈥檙 cyfan gyda鈥檙 nod o hyrwyddo trafodaeth genedlaethol ynghylch etifeddiaeth cymunedau glofaol hanesyddol Cymru.  

Mae Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu鈥檙 prosiect. Amcan y gronfa hon yw annog mwy o weithio mewn partneriaeth a syniadau arloesol a fydd yn cael mwy o effaith gan ddenu mwy o ymwelwyr.

Mae鈥檙 ymweliad 芒 Chymru yn ffurfio rhan o Daith Atgyfodi 2018 Man Engine lle bydd y pyped 11.2m o uchder yn stemio ar draws rhai o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf y DU, gan gynnwys lleoliadau yng Nghernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Swydd Efrog, Swydd Amwythig a  Swydd Derby.
Mae t卯m cynhyrchu鈥檙 Man Engine, Golden Tree Productions, eisoes wrthi鈥檔 creu profiad gweledol a chlywedol arbennig i鈥檙 daith yng Nghymru -  bydd yn cynnwys sioeau theatraidd, cerddoriaeth fyw a sesiynau adrodd stori i dynnu sylw at dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog de Cymru.

Daw鈥檙 cyhoeddiad am daith 2018 yn dilyn llwyddiant y Man Engine wrth ennill y prosiect celfyddydau gorau yng Ngwobrau鈥檙 Loteri Genedlaethol 2017 鈥 anrhydedd a ddaeth i ran y gl枚wr enfawr yn dilyn ei daith eiconig ar draws Safle Treftadaeth y Byd Tirlun Glofaol Cernyw yn haf 2016.  

Enillodd y Man Engine enwogrwydd byd-eang wrth iddo stemio ar draws Cernyw, gan ddatgelu gwyth茂en ddofn o falchder a chefnogaeth ymhlith 150,000 o ymwelwyr balch yng Nghernyw.   

Disgwylir i鈥檙 daith yng Nghymru ddatgelu鈥檙 balchder hwn hefyd a rhagwelir y bydd yn denu niferoedd mawr o ymwelwyr ar ei daith o Flaenafon i lannau Bae Abertawe yn ystod Blwyddyn y M么r Croeso Cymru 2018.

Bydd t卯m o fwy na dwsin o 鈥榣owyr鈥 yn animeiddio鈥檙 pyped enfawr wrth iddo ddechrau ar ei daith odidog yng Nghymru ar 08 Ebrill 2018 gyda seremoni agoriadol yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a gorymdaith i lawr i Waith Haearn Blaenafon, gyda chorau, bandiau pres a gwledd theatraidd yn dod 芒鈥檙 profiad yn fyw.  

Gwaith Dur Glyn Ebwy fydd y safle nesaf ar 09 Ebrill 鈥 lle arbennig i ddiwydiant Cymru a鈥檙 safle cyntaf ym Mhrydain i gynhyrchu haearn a dur yn yr un lle.

Ar 10 Ebrill,  bydd y Man Engine yn ymweld 芒 Pharc a Chastell Cyfarthfa. Roedd y castell yn gartref i鈥檙 meistr haearn William Crawshay II a鈥檌 deulu, ac mae鈥檔 ein hatgoffa o oruchafiaeth y meistr haearn dros Ferthyr a chyfoeth y diwydiant haearn yn y Cymoedd.   

Yn y cyfamser, gall ymwelwyr wylio鈥檙 peiriant rhyfeddodd yn stemio i Barc Coffa Ynysangharad ar 11 Ebrill. Mae鈥檙 parc wedi鈥檌 leoli yn nhref ddiwydiannol falch Pontypridd, a fu unwaith yn gartref i鈥檙 cwmni enwog Brown Lenox & Co Ltd, gwneuthurwyr cadwyni swyddogol i鈥檙 Morlys.  

Bydd y daith yn gorffen ar 12 Ebrill, gydag arddangosfeydd hanesyddol tu allan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, gorymdaith drwy鈥檙 ddinas a digwyddiad i gwblhau鈥檙 cyfan gyda鈥檙 nos yng Ngwaith Copr Hafod Morfa.
Bydd gwybodaeth bellach a thocynnau ar gyfer yr wythnos ryfeddol yn cael eu rhyddhau drwy wefan Man Engine ym mis Ionawr. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, 鈥淎rferai haearn, copr a glo fod yn sylfaen i fywyd yng Nghymoedd De Cymru, ac mae dyfodiad y Man Engine yng Nghymru yn rhoi cyfle unigryw i鈥檔 trigolion heddiw ddathlu鈥檙 gorffennol a dod 芒鈥檙 dreftadaeth lofaol hon yn fyw.

鈥淢ae鈥檙 Chwyldro Diwydiannol yn rhan bwysig o hanes Cymru ac mae鈥檔 bwysicach nag erioed i gofio鈥檙 bobl a鈥檙 mannau a ddaeth 芒鈥檙 chwyldro鈥檔 fyw. Mae鈥檙 math hwn o ddatblygiad twristiaeth arloesol yn rhoi rhesymau cryf iawn dros ymweld 芒 Chymoedd De Cymru ac mae鈥檔 nodweddiadol o鈥檙 ffordd y mae Tasglu鈥檙 Cymoedd yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu鈥檙 hyn a gynigir i dwristiaid yn yr ardal.  

鈥淩wy鈥檔 annog pobl de Cymru i ddod i weld y dathliad diwylliannol pwysig hwn o鈥檔 treftadaeth ac i ddilyn taith y Man Engine i鈥檔 glannau gogoneddus yn ystod Blwyddyn y M么r 2018.鈥 

Dywed Will Coleman, crewr y Man Engine: 鈥淏ydd ein boi mawr yn dilyn 么l traed Cousin Jacks Cernyw, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dod ag ef i dde Cymru lle'r oedd mwyngloddiau, glofeydd, tramiau a threnau unwaith yn nodweddion cyffredin.

鈥淢ae gennym uchelgais fyd-eang i fynd 芒鈥檙 Man Engine i bob safle glofaol a threftadaeth ddiwydiannol o bwys yn y byd, felly mae dod ag ef i dde Cymru gyda鈥檌 statws treftadaeth ddiwydiannol pwysig yn rhan bwysig iawn ar y daith o amgylch y DU.  

鈥淎llwn ni ddim aros i gwrdd 芒 phobl y Cymoedd a chael gweld y Man Engine yn rhannu straeon am arwyddoc芒d treftadaeth lofaol gyfoethog yr ardal.鈥 

Anogir ymwelwyr sy鈥檔 dod i weld y Man Engine yng Nghymru i rannu eu profiadau epig ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio鈥檙 hashnod #ManEngineCymru.

Am fwy o wybodaeth am daith 鈥淢an Engine Cymru: dathlu diwydiant 鈥 neu i ganfod stori鈥檙 Man Engine rhyfeddol, ewch i https://www.themanengine.co.uk/.


Taith: Man Engine Cymru: dathlu diwydiant
Digwyddiad: Man Engine ym Mlaenafon
Dyddiad: 08 Ebrill
Lleoliadau: Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a Gwaith Haearn Blaenafon 
Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd 芒鈥檙 Man Engine 鈥 y gl枚wr mecanyddol, symudol sy鈥檔 stemio 鈥 tu allan Amgueddfa Big Pit, a鈥檌 wylio鈥檔 gorymdeithio drwy yst芒d Gilchrist cyn diwedd ei daith ger Gwaith Haearn Blaenafon.
Archebu: Mae鈥檙 digwyddiad tu allan Amgueddfa Big Pit ac yst芒d Gilchrist yn rhad ac am ddim ac ni fydd tocynnau. Gellir archebu tocynnau i鈥檙 Gwaith Haearn drwy  http://www.themanengine.co.uk/ ym mis Ionawr.

Digwyddiad: Man Engine ym Mlaenau Gwent
Dyddiad: 09 Ebrill
Lleoliad: Gwaith Dur Glyn Ebwy, 天美传媒 
Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd 芒鈥檙 Man Engine 鈥 y gl枚wr mecanyddol, symudol sy鈥檔 stemio 鈥 wrth iddo ymweld 芒 chymuned ag iddi hanes o gynhyrchu dur.  
Archebu: Gellir archebu tocynnau o flaen llaw drwy
http://www.themanengine.co.uk/ ym mis Ionawr.

Digwyddiad: Man Engine ym Merthyr Tudful
Dyddiad: 10 Ebrill
Lleoliad: Parc a Chastell Cyfarthfa 
Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd 芒鈥檙 Man Engine 鈥 y gl枚wr mecanyddol, symudol sy鈥檔 stemio 鈥 wrth iddo stemio heibio cyn-gartref y meistr haearn William Crawshay II a鈥檌 deulu, Parc a Chastell Cyfarthfa.
Archebu: Gellir archebu tocynnau o flaen llaw drwy http://www.themanengine.co.uk/ ym mis Ionawr.

Digwyddiad: Man Engine yn Rhondda Cynon Taf
Dyddiad: 11 Ebrill
Lleoliad: Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd 芒鈥檙 Man Engine 鈥 y gl枚wr mecanyddol, symudol sy鈥檔 stemio 鈥 wrth iddo ymweld 芒 Pharc Coffa  Ynysangharad, Pontypridd.
Archebu: Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ni fydd tocynnau. 

Digwyddiad: Man Engine yn Abertawe
Dyddiad / Amser: 12 Ebrill
Lleoliadau: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a Gwaith Copr Hafod Morfa. 
Gwybodaeth: Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd 芒鈥檙 Man Engine - y gl枚wr mecanyddol, symudol sy鈥檔 stemio - tu allan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, a鈥檌 wylio鈥檔 gorymdeithio drwy鈥檙 ddinas cyn diwedd ei daith yng Ngwaith Copr hanesyddol Hafod Morfa.
Archebu: Mae鈥檙 digwyddiad tu allan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe a鈥檙 daith drwy鈥檙 ddinas yn rhad ac am ddim ac ni fydd tocynnau. Gellir archebu tocynnau i ddigwyddiad olaf y daith yng Ngwaith Copr Hafod drwy  <http://www.themanengine.co.uk/> ym mis Ionawr.

Man Engine 鈥 ffeithiau sydyn

  • Y  Man Engine yw鈥檙 pyped mecanyddol mwyaf a adeiladwyd erioed ym Mhrydain; 4m o uchder pan fydd yn 鈥榗ropian鈥, a 11.2m o uchder pan fydd yn 鈥榮efyll鈥. 
  • Daeth 150,000 o ymwelwyr balch i鈥檞 weld yn ystod ei daith o amgylch Cernyw yn 2016.
  • Taith Man Engine yn Ebrill fydd ei ymweliad cyntaf erioed 芒 Chymru. 
  • Bydd Taith Atgyfodi 2018 yn dechrau yng Nghernyw a Dyfnaint cyn symud i Wlad yr Haf, de Cymru, Swydd Derby, Swydd Amwythig a Swydd Efrog. 
  • Dyluniwyd a chr毛wyd y pyped gan Golden Tree Productions, a鈥檙 cyfan yn digwydd yng Nghernyw.
  • Enillodd deitl 鈥楶rosiect Celfyddydau Gorau鈥 yng Ngwobrau鈥檙 Loteri Genedlaethol 2017.
  • Cr毛wyd y Man Engine i anrhydeddu dycnwch, dyfalbarhad, llafur ac arloesedd y diwydiant glofaol a phawb a ymlafniodd ynddo.