天美传媒

Gofod swyddfa newydd hyblyg ar gael yng Nglynebwy yn y dyfodol agos

Bydd gwaith ar y Box, hyb newydd o safleoedd swyddfa hyblyg  a gynlluniwyd yn bwrpasol a鈥檜 trawsnewid o gynwysyddion llongau, cael ei gwblhau yn fuan ar hen safle鈥檙 Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy.

Mae鈥檙 datblygiad o 21 o unedau manyleb uchel yn amrywio o 159tr.sg. hyd at 220tr.sg. ar gyfer gwasanaethau ariannol, proffesiynol a defnydd busnes yn ychwanegiad newydd a chyffrous i bortffolio eiddo y Cyngor.

Cafodd yr unedau unigryw hyn, a gafodd eu rhan-gyllido gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, eu lleoli o amgylch safle cynaliadwy, bywiog a defnydd cymysg a ddaw hefyd yn gartref i Gampws Thales a鈥檙 hyb technoleg ym Mlaenau Gwent.

Mae鈥檙 unedau yn berffaith ar gyfer busnesau modern a chreadigol gyda naws technoleg sydd naill ai鈥檔 dechrau arni, yn cyflymu twf eu busnes neu鈥檔 barod am eu gofod swyddfa cyntaf. Cynigir nifer o unedau mewn amgylchedd sy鈥檔 rhoi preifatrwydd, diogelwch a gofod penodedig ond gyda budd amgylchedd waith agored a hamddenol yn agos at entrepreneuriaid o鈥檙 un anian.

Mae鈥檙 unedau eu hunain yn rhoi amgylchedd modern a cymunol gyda seddi cysurus, cegin ac ystafelloedd y gellir eu harchebu, yr amgylchedd perffaith ar gyfer unrhyw fusnes entrepreneuraidd uchelgeisiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

鈥淩wy鈥檔 falch i gefnogi鈥檙 safle flaengar yma a fydd gobeithio yn cefnogi datblygu busnesau newydd ac entrepreneuraidd yn yr ardal. Diolch i鈥檙 gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae鈥檔 rhoi sylfaen wych i Flaenau Gwent ar gyfer ysgogi gweithgaredd economaidd newydd a datblygu cyfleoedd wrth i ni ddechrau adfer o Covid. Gobeithiaf weld y safle鈥檔 ffynnu gyda entrepreneuriaid y dyfodol pan fydd yn llwyr weithredol yn yr haf.鈥

Ychwanegodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

鈥淢ae鈥檙 safle blaengar ac unigryw hwn yn enghraifft wych o sut y gall y rhaglen Trawsnewid Trefi helpu i gefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu ac yn enghraifft gref o鈥檙 buddion hirdymor y gall adfywio dod 芒 hwy i gymunedau Cymru.

鈥淏ydd y Box yn cael effaith drawsnewidiol ar fusnesau bach, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid lleol yng Nglynebwy sy鈥檔 gobeithio sefydlu eu menter busnes eu hunain neu ehangu i ofod swyddfa, gan roi hwb hanfodol i鈥檙 economi lleol.鈥