Nod yr ymgyrch newydd yw codi ymwybyddiaeth am y gwahanol ffyrdd o faethu a sut y gall y rhain a ystyrir yn aml yn fathau 鈥渉eriol鈥 o faethu fod yn addas i unigolion a theuluoedd.
Wrth baratoi ar gyfer ymgyrch Ionawr 2024 鈥楪all pawb gynnig rhywbeth鈥 mae Maethu Cymru wedi siarad 芒 dros 100 o bobl 鈥 gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau鈥檙 cyhoedd, a鈥檙 rhai sy鈥檔 gadael gofal.
Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag gwneud ymholiadau:
- Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
- Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd 芒 rhai ffyrdd o fyw.
- Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.
Yr hydref hwn, mae Maethu Cymru 天美传媒 鈥 鈥嬧媟han o鈥檙 rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru 鈥 yn parhau 芒鈥檙 ymgyrch genedlaethol 鈥楪all pawb gynnig rhywbeth鈥 a lansiwyd ym mis Ionawr. Y tro hwn y nod yw tynnu sylw at yr anghenion maethu penodol y mae'r awdurdod lleol yn cael trafferth mynd i'r afael 芒 nhw.
Drwy ddefnyddio ein hased mwyaf 鈥 gofalwyr maeth presennol 鈥 rydym am amlygu sgiliau a phriodoleddau sy鈥檔 eu helpu i ddarparu cartrefi cariadus i blant neu grwpiau a ystyrir yn fwy 鈥榟eriol鈥, fel Rhiant a Phlentyn, Grwpiau Brodyr a Chwiorydd, Pobl Ifanc yn eu Harddegau, Plant ag anabledd, a Plant a Phobl Ifanc ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (UASC). Mae鈥檙 priodoleddau hyn yn fach ond yn arwyddocaol o ran trawsnewid bywydau plant yn eu gofal. Gall amynedd, sgiliau cyfathrebu da, chwilfrydedd, synnwyr digrifwch neu'r gallu i addasu, ymhlith llawer o nodweddion eraill, eich gwneud yn ofalwr maeth gwych.
鈥淩oedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth 鈥 ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw鈥檙 sgiliau hefyd鈥.
Dywedodd Mike, sy鈥檔 maethu ffoaduriaid ifanc sydd angen diogelwch ac arweiniad, 鈥Rwy鈥檔 gofalu am ddau fachgen o Afghanistan, y ddau yn 16 oed. Maen nhw wedi setlo i mewn yn dda iawn. Maen nhw wrth eu bodd yn chwarae chwaraeon. Maen nhw'n bleser pur i fod yn eu cwmni. Rydyn ni wedi rhannu ein diwylliant gyda nhw, ac maen nhw wedi rhannu eu diwylliant gyda ni. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi, yn dysgu amdanyn nhw, yn eu haddysgu amdanon ni ac yn dangos bod gennym ni gymaint yn gyffredin nad nhw a ni ydyw mewn gwirionedd, ond yn hytrach, ni.鈥
Dywedodd Kim a Phil sy鈥檔 cynnig maethu Rhiant a Phlentyn, 鈥Mae cynnig lleoliad Rhiant a Phlentyn yn golygu bod angen ymgysylltu, ond roeddem wrth ein bodd; dyma'r math gorau o faethu. Fe wnaethom gefnogi mam gyda'i sgiliau magu plant, yn hytrach na bod yn ofalwyr maeth i blant yn unig. Pethau fel dangos i fam sut i fwydo'r babi a siarad 芒 nhw ar yr un pryd. Roedd llawer o feithrin yn digwydd.鈥
Mae鈥檙 ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 7 Hydref ar draws y cyfryngau digidol a chymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ar draws rhanbarth 天美传媒 a Gwent.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i holi, ewch i:
Maethu Cymru 天美传媒
Canolfan Adnoddau Teulu
Heol Beaufort
Glynebwy
NP23 5LH