天美传媒

Ffliw adar

Mesurau gorfodol newydd o ran bioddiogelwch a thai i ddiogelu ymhellach rhag ffliw adar

Mae perchnogion dofednod ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol i baratoi ar gyfer mesurau newydd o ran bioddiogelwch a thai a ddaw i rym yn ddydd Gwener 2 Rhagfyr.

Mae gofynion bioddiogelwch a thai dofednod ac adar caeth yng Nghymru, a ddaw i rym ddydd Gwener 2 Rhagfyr, yn mynd rhagddynt er mwyn bod ar y blaen ar unrhyw gynnydd posibl i feirws ffliw adar yn yr amgylchedd ac adeiladu hydwythedd ychwanegol at y mesurau pwysig a gyflwynwyd fis Hydref drwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru.

O ddydd Gwener, 2 Rhagfyr, fe fydd yn ofyniad cyfreithiol i holl berchnogion adar gadw eu hadar da do neu wedi eu gwahanu mewn modd arall oddi wrth adar gwyllt.

Rhaid i berchnogion hefyd gwblhau a gweithredu adolygiad bioddiogelwch pwrpasol ar gyfer yr adeilad y mae鈥檙 adar yn cael eu cadw ynddo. Mae hyn er mwyn isafu鈥檙 risg o鈥檙 feirws yn cael mynediad at gytiau adar sydd fel arfer yn arwain at farwolaeth ar raddfa uchel.

Mae鈥檙 mesurau newydd hyn yn ychwanegol at y rhai hynny ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy鈥檔 parhau i fod yn hanfodol bwysig.

Nawr, mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn annog pobl sy鈥檔 cadw adar i gydymffurfio gyda鈥檙 mesurau newydd drwy wneud yn si诺r fod adeiladau yn addas.

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac amgylchedd: 鈥淐afwyd cyrch digynsail o ran ffliw adar ym Mhrydain Fawr ac Ewrop yn 2022.

鈥淒im ond os oes bioddiogelwch trylwyr yn cyd-fynd 芒 thai adar y bydd yn effeithiol o ran diogelu rhag ffliw adar a chadw鈥檙 feirws allan o gytiau adar. Y ffordd orau o wneud hyn yw cwblhau rhestr wirio bioddiogelwch a fydd yn orfodol i'r holl berchnogion.

鈥淢ae鈥檙 cyngor o ran iechyd cyhoeddus yn parhau yr un peth sef fod y risg i iechyd dynol o鈥檙 feirws yn isel iawn ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori fod risg diogelwch o ran bwyd yn isel iawn i brynwyr yn y DU.

鈥淩wyf am ddiolch i bawb ym Mlaenau Gwent sy鈥檔 cadw adar yn y sir am y camau y maen nhw wedi eu cymryd i gadw adar Cymru鈥檔 ddiogel rhag y clefyd dinistriol hwn; camau y gwyddom sydd wedi diogelu鈥檙 adar. Bydd y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd yn adeiladu ar yr ymdrech hwnnw. O鈥檜 dilyn yn drylwyr, bydd ein hadar yn cael eu diogelu.鈥

I weld rhestr wirio hunan asesu gorfodol ar gyfer bioddiogelwch ewch i

Am y diweddaraf am Ffliw Adar ewch i