天美传媒

Estyn yn cydnabod gwaith i gefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig

Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor wedi clywed sut mae Estyn wedi cydnabod gwaith effeithlon y Cyngor, mewn partneriaeth gyda ein hysgolion, i gefnogi dysgwyr a鈥檜 teuluoedd ym Mlaenau Gwent yn ystod pandemig COVID-19.

Cynhaliodd Estyn 鈥 arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru 鈥 adolygiad ar waith yr awdurdod lleol yng nghyswllt addysg a鈥檙 pandemig yn ystod cyfnod mis Mehefin i fis Tachwedd 2020.

Mae鈥檙 arolygiaeth wedi paratoi adroddiad Adolygiad Thematig cenedlaethol ar eu canfyddiadau sydd yn gyffredinol gadarnhaol ac yn lleol yn cydnabod gwaith y Cyngor mewn pedwar prif faes cameo:

- Cydweithio cryf
Gweithio鈥檔 dda gyda chydweithwyr o feysydd gwasanaeth o bob rhan o鈥檙 Cyngor, a phartneriaid allanol, i ymateb mewn modd priodol i anghenion dysgwyr tra鈥檔 cydymffurfio gyda chanllawiau鈥檙 Llywodraeth i sicrhau fod dysgu a gofal plant wedi parhau鈥檔 effeithlon ym 天美传媒.

- Disgyblion bregus
Gweithio i gefnogi鈥檙 dysgwyr mwyaf bregus gydag ystod eang o anghenion neilltuol. Rhoddodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg gymorth ar amrywiaeth o faterion a phryderon ac fe wnaeth y Gwasanaeth Lles Addysg barhau i gysylltu鈥檔 ddiogel gyda dysgwyr a ddynodwyd a鈥檜 teuluoedd. Parhaodd cefnogaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gydol y cyfnod.

- Gwasanaeth Ieuenctid
Newidiodd y Gwasanaeth Ieuenctid y ffyrdd y mae鈥檔 gweithio i barhau i gefnogi tua 750 o blant a phobl ifanc, yn cynnwys help gyda chyflogaeth, cyllid a llety a chefnogaeth gyda llesiant emosiynol a ffisegol. Maent hefyd wedi darparu cwnsela ac annog pobl ifanc i arsylwi ar fesurau COVID a chadw鈥檔 ddiogel.

- Cymorth digidol
Gweithio gyda darparwyr technoleg gwybodaeth i ddarparu dros 1,600 o ddyfeisiau electronig i deuluoedd a gafodd eu hallgau鈥檔 ddigidol i鈥檞 galluogi i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cyfunol.

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg:

鈥淣id oes unrhyw amheuaeth na fu鈥檙 flwyddyn ddiwethaf yn heriol iawn i bawb ac rwy鈥檔 falch iawn o鈥檙 ffordd y gwnaeth y Cyngor a鈥檔 hysgolion ymateb a gweithio鈥檔 rhagorol gyda鈥檌 gilydd a gyda phartneriaid allweddol eraill i gefnogi ein dysgwyr a鈥檜 teuluoedd, fel y cafodd anghenion cymorth addysgol a llesiant barhau i gael eu diwallu.

Rwy鈥檔 falch fod Estyn wedi cydnabod y gwaith caled hwn yn eu hadroddiad a鈥檜 bod hefyd yn cefnogi鈥檙 gwaith gyda鈥檙 Gwasanaeth Cyflawni Addysg i gefnogi cynllunio wrth ysgolion ar gyfer cyfnod nesaf yr adferiad ac adnewyddu ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i weithio mewn cysylltiad agos gydag ysgolion ac mae hyn yn brif flaenoriaeth i ni.鈥