天美传媒

Erlyn Tri o Bobl am Orfodaeth Gwastraff Ochr


Mae Cyngor 天美传媒 wedi erlyn tri o bobl yn llwyddiannus am droseddau'n gysylltiedig 芒 gweithredu gwastraff ochr.

Cafodd yr unigolion o Flaenau Gwent eu herlyn mewn cysylltiad gyda diffyg cydymffurfiaeth 芒 'Pholisi Gorfodaeth Dim Gwastraff Ochr' y Cyngor. Cyflwynwyd hyn ym mis Mehefin 2018 mewn ymdrech i wella cyfraddau ailgylchu y Cyngor ac i sicrhau y caiff y targedau ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru eu cyrraedd.

Cafodd dau unigolyn o Dredegar ddirwy o 拢220.000 gyda chostau o 拢62.50 a gordal dioddefwyr o 拢30.00 yr un, gyda thrydydd unigolyn, hefyd o Dredegar, yn cael dirwy o 拢220.00 gyda chostau o 拢125.00 a gordal dioddefwyr o 拢30.00.

Cafodd unigolion eraill Hysbysiadau Cosb Sefydlog am orfodaeth gwastraff ochr, a dalwyd cyn gweithredu Llys.

Mewn ymdrech i osgoi'r dirwyon a osodwyd gan y Llysoedd, cafodd y preswylwyr gynnig cymorth a chyngor nifer o weithiau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda pholisi'r Cyngor, ond gwnaethant ddewis peidio ei dderbyn.

Ymhellach roedd yr Hysbysiad Cosb Sefydlog gwreiddiol am 拢100, fodd bynnag cafodd hyn ei anwybyddu er yr anfonwyd nifer o lythyrau atgoffa at y preswylwyr. Arweiniodd hyn yn y pen draw at i'r Cyngor weithredu yn y Llys i adennill y costau.

Ers gweithredu "Polisi Gorfodaeth Dim Gwastraff Ochr" y Cyngor, dyma'r achosion cyntaf i fynd i'r Llys am beidio talu yr Hysbysiad Cosb Sefydlog a roddwyd i breswylwyr, o'r cyfanswm o 12 Hysbysiad Cosb Sefydlog a roddwyd i breswylwyr. Mae mwy o achosion yn cael eu paratoi ar gyfer dechrau trafodion Llys yn erbyn y preswylwyr hynny sydd 芒 dirwyon heb eu talu nad ydynt wedi talu hyd yma.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:

鈥淩ydym yn gweithio'n barhaus gyda phreswylwyr ar sut y gallant ailgylchu yn well a'r gefnogaeth y gallwn ei ddarparu.

Cyn y gwneir unrhyw ddirwyon, bydd y Cyngor yn ymdrechu i weithio gyda cartrefi ar sut y gallant ailgylchu. Dim ond pan fetho popeth arall y rhoddir Hysbysiad Cosb Sefydlog. Ar bob achlysur roedd y deiliaid tai yn gyson yn rhoi mwy o sbwriel mas nag a a ganiateir ar gyfer pob cartref ac felly'n dangos amharodrwydd i ailgylchu.
Mae peidio ailgylchu yn effeithio ar bobl eraill yn y gymuned. Mae methiant i gyflawni'r targedau hyn mewn blynyddoedd blaenorol wedi arwain at i'r Cyngor gael cosbau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn arian y gellid bod wedi'i ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau eraill y mae angen mawr amdanynt.

Mae gennym nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys Cadw Lan gyda'r Joneses sy'n hysbysu preswylwyr beth fedrir ei ailgylchu, y  gwasanaethau sydd ar gael ac effaith a chost peidio ailgylchu. Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch hon ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal 芒 sut i archebu cynwysyddion ailgylchu. Gallwch hefyd gysylltu 芒 C2BG ar 01495 311556."