天美传媒

Energizer yn dathlu ei 25fed Ben-blwydd yn Stad Ddiwydiannol Rasa

Bydd Energizer Holdings yn dathlu 25fed pen-blwydd ei safle cynhyrchu gofal moduron yr wythnos hon. Sefydlwyd y safle yng Nglynebwy yn 1997 fel STP Products, gan wedyn ddod yn Armor All Products yn 2001. Yn 2019 prynwyd y busnes gan Energizer Holdings, un o gwmn茂au cynhyrchu a dosbarthu mwyaf y byd ar gyfer batris sylfaenol, goleuadau cludadwy a chynnyrch ymddangosiad, perfformiad, oerydd ac arogl moduron yn cynnwys brandiau Energizer, Eveready, Rayovac a VARTA.

Mae鈥檙 safle yn cyflogi bron 50 o staff medrus ac yn cynhyrchu mwy na 700 o gynnyrch arogl ac ymddangosiad moduron yn amrywio o ychwanegion tanwydd i gynnyrch golchi ceir a werthir mewn 43 o wahanol wledydd.

Mae鈥檙 cwmni yn awr yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru ac wedi manteisio o鈥檌 rhaglen Cymorth Sgiliau Hyblyg i ehangu sgiliau鈥檙 gweithwyr. Mae gan arweinwyr y safle hefyd gysylltiadau cryf gydag Arddangosiad Arloesedd y Cymoedd ar gyfer Cynnydd Technolegol (VISTA), lle maent yn rhannu arfer gorau gyda chyflogwyr lleol eraill a Choleg Gwent ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd yn Energizer. Mae鈥檙 cwmni yn falch i gynrychioli ei frandiau byd-eang o fewn Cymoedd De Cymru wrth iddynt ddathlu鈥檙 garreg filltir hon yn hanes y safle.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Gweithrediaeth 鈥 Lle ac Adfywio Cyngor 天美传媒: 鈥淟longyfarchiadau i Energizer Holdings sy鈥檔 dathlu eu pen-blwydd yn 25 yn eu safle yn Stad Ddiwydiannol Rasa, Glynebwy. Rwy鈥檔 falch iawn i鈥檙 cwmni byd-eang hwn ddewis Stad Ddiwydiannol Rasa, safle sydd ers hynny wedi denu nifer o gwmn茂au o鈥檙 radd flaenaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn bersonol i estyn y dymuniadau gorau oll i Energizer Holdings ar gyfer y dyfodol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒 yn falch iawn i rannu鈥檙 garreg filltir bwysig hon gyda nhw 鈥 llongyfarchiadau i鈥檙 t卯m rheoli a鈥檙 gweithwyr a wnaeth i hyn ddigwydd 鈥 pob lwc ar gyfer y dyfodol!鈥