Mae Cyngor 天美传媒 ac elusen cyfranogiad y cyhoedd, Involve, yn cynnal Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent.
Ariennir y fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU. Bydd yn dod ag ystod amrywiol o drigolion ynghyd i glywed tystiolaeth, trafod y materion a chynhyrchu argymhellion am ddyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.
Mae hon yn broses bwysig, a bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan y Cyngor a phartneriaid trafnidiaeth fel rhan o waith i newid a gwella teithio lleol a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng hinsawdd.
Gofynnir i gr诺p o 20 o drigolion, a ddewisir trwy loteri i adlewyrchu鈥檙 gymuned, ateb y canlynol:
Sut gall 天美传媒 ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?
Mae'r Cyngor a sefydliadau partner trafnidiaeth yn awyddus i'r dyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion a bod unrhyw newidiadau a wneir yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn dod 芒 buddion ehangach.
Bydd y Fforwm Dinasyddion yn dilyn proses ddemocrataidd sefydledig a ddefnyddir ledled y byd. Bydd y bobl sy'n mynychu yn dysgu am y materion ac yna'n eu trafod gyda'i gilydd.
Byddant yn llunio gweledigaeth ar gyfer dyfodol teithio ac yn gwneud argymhellion ar sut y gall y cyngor a sefydliadau partner fwrw ymlaen 芒 hyn. Bydd canlyniad y broses hon yn llywio anghenion teithio ar draws y fwrdeistref.
Bydd y fforwm yn rhedeg dros dri dydd Sadwrn mewn lleoliad lleol hygyrch ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.
Cadwch lygad allan am lythyr yn y post a gwnewch gais i gymryd rhan. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am y pynciau i gymryd rhan yn y fforwm hwn ac mae鈥檔 gyfle gwych i lunio dyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.
Os na fyddwch yn derbyn llythyr, bydd cyfleoedd eraill hefyd i gymryd rhan, felly cadwch lygad allan am wybodaeth bellach. Byddwn yn rhannu allbynnau'r fforwm yn agored a sut mae'n llywio'r hyn a wnawn nesaf.
Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at: EVcharging@blaenau-gwent.gov.uk