Mae Cyngor 天美传媒 yn ymgynghori ar gynlluniau i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd mewn camau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae dogfen ymgynghori ffurfiol yn cynnig gwella darpariaeth a meithrin capasiti ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn awr ar gael i鈥檞 weld ar y wefan.
Y bwriad yw ailwampio amgylcheddau dysgu presennol i greu lleoedd ystafell ddosbarth a chyfleusterau cysylltiedig i ddarparu ar gyfer a sicrhau adnoddau priodol ar gyfer y darpariaethau a gynigir ar gyfer ADY ac ASD. Yn ychwanegol, ac wrth ochr hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad parhaus.
Mae nifer o wahanol ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi eich sylwadau;
- Drwy arolwg ar-lein 鈥
- Drwy ffurflen y gellir ei hanfon at 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk
- Drwy鈥檙 post at Joanne Watts, Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8 Llys Einion, Abertyleri, NP13 1DB.
Mae hefyd gyfres o sesiynau galw heibio a drefnwyd i unrhyw un sydd 芒 diddordeb i ganfod mwy, sef:
- Dydd Mawrth 2 Mai, 3pm i 6.30pm 鈥 Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, Stryd James
- Dydd Mercher 3 Mai, 3pm i 6.30pm 鈥 T欧 Bedwellte, Stryd Morgan
- Dydd Mawrth 9 Mai, 3pm i 6.30pm 鈥 Canolfan Ddiwylliannol a Chynadleddau y Metropole Abertyleri
- Dydd Mercher 10 Mai, 3pm i 6.30pm 鈥 Clwb Rygbi Brynmawr, Heol Gatholig
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:
听鈥Mae ein holl blant yn haeddu鈥檙 cyfle i ddatblygu eu potensial a llwyddo o fewn ein hysgolion a鈥檔 cymunedau ein hunain. Rydym yn ymroddedig i wneud yn si诺r eu bod yn cael y cyfle hwnnw, gyda darpariaeth addysg sy鈥檔 diwallu eu hanghenion. Mae canolfannau adnoddau yn darparu addysg ansawdd uchel yn lleol ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o fewn ysgolion prif ffrwd.
"Dangosodd ein hadolygiad diweddar bod angen cynyddol am leoedd ADY o fewn y fwrdeistref a chredwn fod y cynnig hwn yn cynnig datrysiad go iawn, gan roi鈥檙 dulliau i ddysgwyr maent eu hangen i dderbyn eu haddysg wrth ochr eu gr诺p cyfoedion eu hunain a rhoi鈥檙 dulliau mae ysgolion eu hangen i gefnogi ystod eang o ddysgwyr mewn ysgolion lleol.鈥
Daw鈥檙 ymgynghoriad i ben am 5pm ddydd Mawrth 6 Mehefin 2023.