天美传媒

Dweud eich barn ar fannau gwyrdd 天美传媒 fel rhan o brosiect Natur Wyllt

Mae 天美传媒 CBS yn edrych am adborth gan breswylwyr ar sut y caiff ardaloedd naturiol o fewn y sir eu rheoli, gyda mannau gwyrdd ar draws 天美传媒 yn cael eu gadael i dyfu yn ystod misoedd y gwanwyn a鈥檙 haf er budd ecosystemau fel rhan o brosiect Natur Wyllt.

Cafodd y dull rheoli glaswelltir ei arbrofi mewn nifer o leoliadau ar draws y sir dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr mae pob un o鈥檙 pump awdurdod lleol yng Ngwent yn ymroddedig i reoli mwy o fannau gwyrdd ar gyfer natur fel rhan o brosiect Natur Wyllt, gan helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd.

Drwy adael i laswelltir dyfu, caiff mwy o flodau gwyllt eu gadael i flodeuo am fwy o amser, gan roi cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn a glo每nnod byw. Bydd galluogi planhigion i dyfu gwreiddiau hirach a mwy yn golygu y byddant yn cadw mwy o garbon yn y pridd ac yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 newid yn yr hinsawdd. Mae hyn hefyd yn creu mwy o aer yn y pridd, gan helpu i ostwng effaith llifogydd.

Bydd amgylcheddau sy鈥檔 cefnogi ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a lles meddwl preswylwyr, gan eu hannog i neilltuo amser i fwynhau ein mannau gwyrdd a gweld blodau, pryfed a bywyd gwyllt arall yn ymgartrefu yn y mannau gwyrdd naturiol hyn.

Lle鈥檔 bosibl, ni fydd y glaswellt mewn dolydd yn cael ei dorri tan yr haf. Fodd bynnag, caiff ardaloedd o amgylch llwybrau a chyffyrdd eu torri鈥檔 aml i gadw diogelwch a mynediad. Caiff ardaloedd hamdden eu cynnal a鈥檜 cadw yn rheolaidd, gan dorri gwair mewn darnau ar gyfer chwarae a phicnics.

Gan y cafodd y glaswellt mewn parciau ac ymyl ffyrdd ei dorri鈥檔 aml am ddegawdau, maent ar hyn o bryd yn brin o lawer o fathau o flodau gwyllt dolydd. Mae creu dolydd naturiol yn broses a all gymryd nifer o flynyddoedd gan alluogi mwy o flodau i hadu a thynnu glaswellt ar 么l ei dorri. Dros gyfnod byddant yn dod yn fwy amrywiol a lliwgar, gan roi cyfle gwych i ennyn diddordeb plant yn y natur sydd ar gael ar garreg eu drws.

Mae鈥檙 cyngor eisiau sicrhau y canfyddir y cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden drwy glywed adborth preswylwyr ar ddull Natur Wyllt yn y mannau gwyrdd lleol. Drwy adael i ni wybod beth yw eich barn y newidiadau, gallwch ddangos cefnogaeth neu dynnu sylw at feysydd lle gallem wella.

Gallwch gynnig eich adborth drwy鈥檙 ddolen hon:听

Mae鈥檙 prosiect hwn yn rhan o gyfres o raglenni a gyflwynir dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am Grid Gwyrdd Gwent ar gael yma:听