天美传媒

Cyngor yn symud ymlaen ar adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor 天美传媒 wedi cytuno symud ymlaen i鈥檙 cam nesaf mewn cynnig i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar.

Daeth ymgynghoriad, yn cynnwys yr holl brif randdeiliaid, i ben yn ddiweddar ar y cynnig i ddatblygu ysgol 鈥榚gin鈥 Gymraeg 210 lle gyda gofal plant ar yr un safle, yn Chartist Way. Byddai鈥檙 ysgol yn cael ei hadeiladu yn defnyddio 拢6 miliwn o fuddsoddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Cyngor yn awr yn symud i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, fydd yn fyw am 28 diwrnod ac a fydd yn caniat谩u unrhyw barti sydd 芒 diddordeb i wneud gwrthwynebiad ffurfiol.

天美传媒 yw鈥檙 unig ardal awdurdod lleol yng Nghymru i fod 芒 dim ond un ysgol gynradd Gymraeg.

Byddai鈥檙 ysgol yn cael ei hadeiladu i safonau modern Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai creu ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi yn galluogi鈥檙 Cyngor i ddiwallu unrhyw gynnydd yn y galw am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflwynwyd yr adborth o鈥檙 ymgynghoriad chwe wythnos i aelodau鈥檙 Pwyllgor Gweithredol cyn iddo wneud penderfyniad heddiw (dydd Llun 22 Chwefror 2021).

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

鈥淯chelgais Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac ym Mlaenau Gwent, drwy ein Cynllun Strategol Addysg Gymraeg, mae gennym uchelgais i dyfu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd addysg a darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol, a bydd ysgol newydd gyda gofal plant ar y safle yn rhoi mwy o ddewisiadau i rieni wrth ddewis llwybr addysg ar gyfer eu plant.

鈥淒iolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sydd wedi galluogi鈥檙 Pwyllgor Gweithredol i wneud penderfyniad gwybodus heddiw a chytuno鈥檔 unfrydol i symud ymlaen gyda鈥檙 cynnig.鈥

Byddai鈥檙 ysgol newydd yn dechrau fel 鈥榙arpariaeth egin鈥 gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i ddarpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029.

Fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethol, staff ysgolion, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr lleol i gasglu ystod o safbwyntiau.